'Popeth wedi mynd lan': Busnesau bach yn ystyried cau oherwydd costau cynyddol
Mae Ffederasiwn y Busnesau Bach yng Nghymru wedi rhybuddio bod hyder busnesau yng Nghymru yn isel, gyda 30% yn ystyried cau, gwerthu neu leihau maint eu busnesau yn ystod y 12 mis nesaf.
Un o'r busnesau hynny yw canolfan chwarae Dre Twt yn Sanclêr fydd yn cau ar ôl gwyliau'r Pasg ar ôl saith mlynedd.
Mae perchennog y busnes, Nia Maynard, wedi penderfynu cau'r ganolfan yn ystod y misoedd nesaf oherwydd effaith costau cynyddol.
"Ni wedi newid y busnes er mwyn ceisio cadw fynd. Elon ni mewn i ysgolion ond ni wedi dod i'r pwynt mae rhywbeth yn gorfod mynd. Yn anffodus, y ganolfan fydd yn gorfod mynd."
Mae hi'n dweud bod costau'r busnes wedi cynyddu yn sylweddol.
"Mae popeth wedi mynd lan o gost petrol sydd yn effeithio ar bobl sydd yn dod yma. Ni wedi cael lot o ysgolion yn dweud bod nhw methu dod ati achos maen nhw wedi methu fforddio bysus i ddod aton ni. Mae pobl yn tynnu nol o brynu coffi. Mae popeth yn cael knock-on effect."
Fe fydd Dre Twt yn parhau i gynnig gwasanaeth symudol mewn ysgolion lleol ond mae Nia yn cyfaddef ei bod hi'n siomedig gorfod cau'r ganolfan, er bod bod hi wedi llwyddo i oroesi'r pandemig Covid-19.
"Mae'n siomedig iawn. Fi wedi rhoi popeth mewn - mae gyd o life savings wedi mynd mewn i hyn. O ni'n gwybod bod e'n risg ond mae wedi bod yn un peth ar ôl y llall. Mae costau trydan, yr insiwrans wedi mynd lan.
"Chi'n mynd wedyn i brynu pethau fel y coffi a mae hynny wedi mynd lan a'r rental ar gyfer y machine wedi mynd lan. Mae popeth wedi mynd lan. Ni wedi gorfod rhoi hwnna i'r cwsmer, ond mae'r cwsmer ddim yn gallu fforddio fe chwaith."
Yn ôl y Ffederasiwn, mae mwy o fusnesau nawr yn ystyried lleihau maint y busnes, cau neu gwerthu na sydd yn bwriadu ehangu (18%). Yn ôl Nia, mae hi'n gwybod am fusnesau eraill yn yr ardal sydd yn wynebu'r un sefyllfa.
"Dyw e ddim yn sioc o gwbl. Fi'n nabod pobl eraill sydd yn dweud yr un peth sef bod nhw wedi gorfod torri nol neu cau a hefyd dyw pobl ddim yn cael plant rhagor achos dyw nhw ddim yn gallu fforddio codi nhw, ac mae hynny yn mynd i effeithio busnesau."
Yn ôl ei gwaith ymchwil, y pryder pennaf i fusnesau yw cyflwr yr economi (68%) ynghyd a threthi (45%).
Mae'r Ffederasiwn wedi galw am warchod busnesau lletygarwch a hamdden rhag cynnydd mewn trethi busnes, ac wedi ysgrifennyd at y Gweinidog Cyllid, Mark Drakeford, i godi pryderon.
'Hollbwysig'
Mae Dr Llyr ap Gareth yn bennaeth polisi i FSB Cymru. Dywedodd wrth Newyddion S4C: "Mae busnesau lletygarwch a hamdden a manwerthu yn hollbwysig i drefi Cymru, ledled Cymru. Ar hyn o bryd maen nhw yn gwynebu lot o gostau.
"Un ydy fod costau ardrethi busnes yn codi achos bod ei safle busnes yn cael ei ail-brisio. Yn ogystal, maen nhw yn colli cefnogaeth o 40% oddi ar ei biliau o fis Ebrill ymlaen, felly da ni yn poeni bod hyn yn mynd i arwain at lot o drafferthion i'r busnesau yma a bod rhai ddim yn mynd i fedru oresgyn hyn.
"Da ni wedi gweld dros y flwyddyn ddiwethaf bod hyder busnesau wedi disgyn lot. Mae mwy yn fwy tebygol o gau lawr nac o dyfu. Mae'n holl bwysig bod yna gefnogaeth i fusnesau bach i oresgyn y cyfnod yma ac i dyfu eto yn y dyfodol."
Ychwanegodd: "Da ni yn cefnogi ac yn croesawu y fformiwla newydd gan Lywodraeth Cymru i fanwerthwyr, sydd yn golygu bod eu bil nhw yn llai ond da ni eisiau iddyn nhw ymestyn y gefnogaeth hynny i'r sector hamdden a lletygarwch yn ogystal."
Trothwy trethi
Mae'r Ffederasiwn wedi galw ar Lywodraeth Cymru hefyd i gynyddu'r trothwy ar gyfer rhyddhad ardrethi busnesau bach i £12,000 er mwyn cyfateb gyda'r lefel yn Lloegr.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod yna £116m o bunnau ar gael mewn cymorth pontio dros y ddwy flynedd nesaf i fusnesau, a bod y llywodraeth wedi rhoi £1bn o gefnogaeth ariannol i fusnesau ers 2020.
Mae'r llywodraeth hefyd wedi ymrwymo i ddarparu £8m mewn rhyddhad ardrethi ychwanegol ar gyfer busnesau lletygarwch, bwyd a diod, fydd yn lleihau biliau i rhyw 4,400 o fusnesau lletygarwch. Yn ôl y llywodraeth, dyw tua hanner busnesau Cymru ddim yn talu ardrethu busnes o gwbl.
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd Plaid Cymru dros yr Economi ac Ynni, Luke Fletcher bod y llywodraeth Lafur wedi "methu mynd i'r afael â'r heriau sydd yn wynebu'r economi" a bod y stryd fawr yn gwagio.
Mae'r blaid yn dweud y byddai'n "ysgafnhau'r baich" ar y busnesau lletygarwch a manwerthu drwy "ehangu'r lluosydd cyfraddau-is i fusnesau lletygarwch bach a chanolig."
Fe gyhuddodd arweinydd Reform yng Nghymru, Dan Thomas, y Blaid Lafur a Phlaid Cymru o greu "hinsawdd elyniaethus i fusnesau bach."
Yn ôl Mr Thomas, mi fyddai Reform yn "cynnig polisiau fyddai'n cefnogi busnesau bach a'u gweithwyr ar draws Cymru" er doedd dim manylion penodol yn y datganiad am y polisiau hynny.
Mae'r Ceidwadwyr, y Blaid Werdd a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cael cais i ymateb.