Darganfod trysor Rhufeinig prin yng Ngheredigion

trysor ceredigion.jpg

Mae trysor Rhufeinig prin wedi'i ddarganfod wrth gloddio yng Ngheredigion. 

Y ddau ingot plwm Rhufeinig yw'r cyntaf o'u math i'w darganfod yng ngorllewin Cymru. Maent yn dyddio yn ôl bron i 2,000 o flynyddoedd. 

Mae Amgueddfa Cymru yn dweud bod y darganfyddiad yn dystiolaeth bod plwm yr ardal wedi cael ei gloddio yn y cyfnod Rhufeinig.

Daeth Nick Yallope a Peter Nicolas o hyd i'r trysor wedi iddynt gael caniatâd i gloddio ar y tir gan y perchennog.

Dywedodd Nick Yallope: "Rwy’n teimlo’n hynod falch o fod wedi darganfod rhywbeth mor brin a phwysig i’n treftadaeth leol. Mae datgloi pennod newydd o hanes ein hardal yn hynod gyffrous."

Ychwanegodd Peter Nicolas: "Rwy’n ceisio achub hanes ar gyfer y gymuned leol a chenedlaethau’r dyfodol. Ac rydw i'n hapus iawn i roi’r pethau rydw i’n eu darganfod i’r amgueddfa leol i eraill gael eu profi a’u mwynhau."

Fe gafodd y trysor eu darganfod ar dir pori sy'n eiddo i'r ffermwr lleol Geraint Jenkins.

"Roedden ni wedi synnu pan ddaeth dau unigolyn lleol gyda datgelyddion metel â’r darganfyddiad hwn i’n sylw, sef Nick a Peter, sydd â chaniatâd i chwilio ar ein tir. Mae ingotau Rhufeinig yn eithriadol o brin ac yn cynrychioli cysylltiad pendant â gorffennol diwydiannol Rhufeinig Cymru," meddai.

"Ein blaenoriaeth yw bod y darganfyddiad yn cael ei drin mewn modd cyfrifol fel bod ei werth hanesyddol, diwylliannol a chynhenid ​​llawn yn cael ei ddeall a'i gydnabod yn iawn. Mae'n rhyfeddol meddwl bod tir rydyn ni'n ei ffermio'n organig nawr wedi chwarae rhan mewn tirwedd Rufeinig llawer ehangach ar un adeg."

Y gobaith bellach yw y bydd modd arddangos y trysor mewn amgueddfa leol i bawb gael eu gweld. 

Ychwanegodd Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion: "Rydyn ni'n bwriadu rhannu’r stori hon yn ein horiel archaeoleg newydd, a fydd yn agor yn 2027, felly mae amseriad y darganfyddiad hwn yn berffaith."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.