Pedair blynedd o ryfel Wcráin: Rwsia ‘ddim yn mynd i ennill'
Wrth nodi pedair blynedd o’r rhyfel yn Wcráin, mae swyddogion gorllewinol wedi dweud nad yw Vladimir Putin bellach yn gallu recriwtio milwyr Rwsiaidd yn ddigon cyflym i gymryd lle’r rhai sydd wedi marw ar faes y gad.
Mynnodd gweinidog lluoedd arfog, Al Carns, nad oedd gostyngiad yn nifer y dynion sydd ar gael i ymladd dros Rwsia yn golygu y gallai’r DU osgoi cynyddu gwariant ar amddiffyn.
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd Prydain yn darparu rhagor o gefnogaeth filwrol, ynni a dyngarol newydd i Wcráin.
Yn ôl swyddogion gorllewinol, mae rhwng 30,000 a 35,000 o filwyr Rwsiaidd yn cael eu recriwtio bob mis.
Ond eu credu yw bod nifer y rhai a gafodd eu lladd dros y tri mis diwethaf wedi bod yn uwch na nifer y rhai a ymunodd.
Mae hynny’n golygu bod nifer y milwyr sydd gan Moscow ar faes y gad wedi gostwng am y tro cyntaf yn ystod y pedair blynedd ers dechrau’r rhyfel.
Ddoe dywedodd y Prif Weinidog Keir Starmer nad oedd Rwsia "yn ennill y rhyfel".
Fe ymosododd Rwsia ar Wcráin ar 24 Chwefror 2022.
Mae swyddogion gorllewinol yn credu y bydd hyn yn cael effaith sylweddol ar allu’r Kremlin i gyflawni ymosodiadau yn ystod y gwanwyn neu’r haf.
Mae hefyd yn codi’r posibilrwydd y gallai Rwsia orfod cyflwyno consgripsiwn, yn hytrach na dibynnu ar yr addewid o wobrau ariannol i recriwtio milwyr.
Pecyn cymorth
Mae Prydain wedi addo gwario 3.5% o incwm cenedlaethol ar amddiffyn erbyn 2035, yn unol ag addewid a wnaed gan aelodau Nato y llynedd.
Mynnodd Mr Carns ei bod yn bwysig “peidio â chymysgu’r ddau beth”, gan ychwanegu: “Mae Rwsia yn dioddef colledion enfawr ar y rheng flaen, ond mae’n rhaid i ni feddwl am feysydd eraill hefyd.
“Er enghraifft, mae ymosodiadau seiber [cyber] wedi costio £15 biliwn i’n heconomi ni ar ei ben ei hun.
“Rydyn ni wedi gweld cynnydd o 50% mewn ymosodiadau gelyniaethus gan wladwriaethau ar y Weinyddiaeth Amddiffyn yn unig.”
Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd gyda’r nod o gefnogi ymdrechion Kyiv i ddod a’r rhyfel i ben.
Mae hyn yn cynnwys pecyn gwerth £20 miliwn i helpu i atgyweirio a diogelu grid trydan y wlad - sydd yn aml yn darged i ymosodiadau Rwsia - yn ogystal â £5.7 miliwn o gymorth i Wcrainiaid y mae eu trefi a’u pentrefi ar reng flaen y rhyfel.
Mae meddygon milwrol Wcráin hefyd yn cael mentora gan lawfeddygon, nyrsys a ffisiotherapyddion Prydeinig ym maes llawdriniaeth faes y gad.
Mae arlywydd y wlad, Volodymyr Zelensky, wedi dweud wrth y BBC ei fod yn credu bod Mr Putin wedi dechrau trydydd rhyfel byd gyda goresgyniad Wcráin.
“Rwy’n credu bod Putin eisoes wedi’i ddechrau," meddai.
"Y cwestiwn yw faint o diriogaeth y bydd yn gallu ei chipio a sut i’w atal… Mae Rwsia eisiau gorfodi ffordd wahanol o fyw ar y byd a newid y bywydau y mae pobl wedi’u dewis iddyn nhw eu hunain."
Llun: Rali yn Rhufain i nodi pedair blynedd o'r rhyfel yn Wcráin (llun gan Reuters)