Rhyddhau Peter Mandelson ar fechnïaeth wrth i'r heddlu ymchwilio
Mae’r Arglwydd Peter Mandelson wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ar ôl iddo gael ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus, meddai Heddlu’r Met.
Mae honiadau fod Peter Mandelson wedi trosglwyddo gwybodaeth sensitif i’r pedoffeil Jeffrey Epstein, tra’r oedd yn weinidog yn Llywodraeth Lafur Gordon Brown.
Daeth hynny i'r amlwg ar ôl i Adran Gyfiawnder America gyhoeddi mwy na thair miliwn o ddogfennau yn ymwneud ag Epstein.
Mewn datganiad a gyhoeddwyd toc ar ôl 2.00 ddydd Mawrth, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu’r Met: “Mae dyn 72 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bo ymchwiliadau pellach yn mynd rhagddynt.
“Cafodd ei arestio mewn cyfeiriad yn Camden ddydd Llun, 23 Chwefror, ac fe gafodd ei gludo i orsaf heddlu yn Llundain i gael ei gyfweld.
“Mae hyn yn dilyn caniatáu gwarantau chwilio mewn dau gyfeiriad yn ardaloedd Wiltshire a Camden.
“Nid ydym mewn sefyllfa i ddarparu rhagor o wybodaeth ar hyn o bryd er mwyn osgoi amharu ar yr ymchwiliad.”
Daw arestiad yr Arglwydd Mandelson ddyddiau ar ôl i Andrew Mountbatten-Windsor gael ei arestio ar amheuaeth o gamymddwyn mewn swydd gyhoeddus.
Fe gafodd y cyn-dywysog ei ryddhau dan ymchwiliad.