Galw am ‘sgwrs genedlaethol’ ynglŷn â threth cyngor wedi i’r gost gyfartalog gynyddu

Llun: ITV Cymru
Andrew Morgan / Treth Cyngor

Gydag awdurdodau lleol yn dechrau nodi eu cynlluniau ar gyfer cynyddu treth cyngor, mae rhai yn galw am "sgwrs genedlaethol" ynglŷn â’r system yng Nghymru.

Dros y pum mlynedd diwethaf mae cost gyfartalog treth cyngor wedi codi dros £500.

Yn 2020, roedd bil treth y cyngor ar gyfartaledd ar gyfer eiddo Band D yng Nghymru yn £1666.94 y flwyddyn, ond yn 2026 mae’r bil wedi codi i £2169.71, cynnydd o dros £500 (£502.77).

Gyda chynnydd costau treth cyngor, mae rhai yn cwestiynu tegwch y system. 

Mae un cynghorydd yn ardal Rhondda Cynon Taf yn galw ar ailedrych ar y system treth cyngor yng Nghymru.

'Anodd'

“Ar draws y wlad dwi’n credu bod angen trafodaeth am y ffaith nad yw’r system treth cyngor yn un teg," meddai Andrew Morgan.

"Yn Rhondda Cynon Taf mae gennym ni'r drydedd dreth gyngor isaf fesul annedd yn seiliedig ar yr hyn y mae pobl yn ei dalu mewn gwirionedd ond mae pobl yn cymharu bandiau, mae hynny'n seiliedig ar werth eich tŷ.

“Felly os ydy eich tŷ band A yn y Rhondda yn cael ei symud i Fro Morgannwg, mi fydd y tŷ wedyn yn un band D, felly mae’r system yn anodd i bobl ddeall, a dyw e ddim yn system deg."

Image
Banc bwyd CPD Aber Valley yng Nghaerffili
Banc bwyd CPD Aber Valley yng Nghaerffili. Llun: ITV Cymru

Mae cost treth cyngor yn achosi straen ariannol i nifer, gydag un banc bwyd yng Nghaerffili yn dweud bod cynnydd wedi bod yn y nifer sy’n defnyddio’i wasanaethau, yn enwedig ymysg rheini sydd yn gweithio.

“Mae dros hanner o’n ceisiadau yn dod o deuluoedd sy’n gweithio, rhai teuluoedd gyda dau riant sy’n gweithio,” meddai Lucy Midgley, un o wirfoddolwyr y bwyd banc.

“Rydyn ni’n cael pobl broffesiynol yn gofyn am help, gan gynnwys athrawon.

“Rydyn ni’n derbyn adroddiadau gan bobl yn dweud maen nhw’n stryglo gyda chostau byw gan gynnwys costau ynni a threth cyngor."

Mae'r cyngor yng Nghaerffili yn dweud hyd yn oed gyda chynnydd arfaethedig o 6.25% yn y dreth gyngor y byddant yn dal i wynebu pwysau ariannol sylweddol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.