Newyddion S4C

Gemau Paralympaidd: Medal aur i David Smith o Abertawe

01/09/2021
David Smith
Paralympics GB

Mae David Smith wedi ennill medal aur yng Ngemau Paralympaidd Tokyo 2020. 

Roedd yr athletwr, sydd yn byw ac yn cael ei hyfforddi yn Abertawe, yn wynebu Chew Wei Lun o Falaysia yn rownd derfynol y gystadleuaeth boccia ddydd Mercher. 

Dyma'r tro cyntaf i athletwr o Gymru i ennill y fedal aur fel unigolyn yn Tokyo hyd yn hyn. 

Fe enillodd David Smith y fedal aur yn Rio de Janeiro yn 2016, gan olygu mae fe yw'r chwaraewr boccia mwyaf llwyddiannus yn hanes y Deyrnas Unedig.

Llun: Paralympics GB

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.