Newyddion S4C

Tymor yn unig yn gallu effeithio ar ymennydd chwaraewyr rygbi

Newyddion S4C 31/08/2021

Tymor yn unig yn gallu effeithio ar ymennydd chwaraewyr rygbi

Gall chwarae rygbi proffesiynol am un tymor yn unig gael effaith ar ymennydd chwaraewr, yn ôl astudiaeth newydd.

Mae’r ymchwil gan Brifysgol De Cymru yn awgrymu bod chwaraewyr rygbi proffesiynol yn profi hyd at 11,000 o ergydion gwahanol bob tymor, ac felly nad cyfergydion amlwg yw'r unig fygythiad i'w hiechyd yn y tymor hir.

Yn yr astudiaeth gafodd ei chyhoeddi yn y Journal of Experimental Physiology, dim ond chwech cyfergyd gafodd eu cofnodi gan y tîm yn y Bencampwriaeth Rygbi Unedig yn ystod y tymor cyfan.

Dangosodd profion hefyd bod dirywiad yn llif y gwaed i'r ymennydd â gweithgaredd gwybyddol ym mhob un o'r chwaraewyr erbyn diwedd y tymor.

10 mlynedd ers i Shane Williams chwarae ei gêm olaf i Gymru mae'r cyn-asgellwr yn dal i ystyried yr effaith mae'r gamp wedi ei gael ar ei ymennydd.

Ymhlith yr anafiadau cafodd sawl anaf i'w ben yn ystod ei yrfa, gan gynnwys un dacl nerthol a gafodd gan Bakkies Botha o Dde Affrica yn 2004.

"Doedd e ddim nes i fi fynd nôl i'r gwesty rai oriau wedyn nes i sylweddoli mod i ddim yn dda iawn," meddai wrth raglen Newyddion S4C.

"Fi ddim yn cofio lot am newid ar ôl 'ny, gweld y chwaraewyr ac aelodau'r teulu yn y stadiwm, roedd e fel mod i allan ohoni am gwpl o oriau.

"Odd y tacl yn iawn, odd e'n isel, ond dalodd e fi yn cefn fi.

"Fi'n credu bwres i cefn pen fi ar ysgwydd neu falle pen Bakkies Botha a bwrodd e fi mas yn syth.

"Ath y bêl mlan a sgoriodd De Affrica yn y ochr arall, ond sa' i'n cofio 'na.

"Fi'n credu hwnna odd y tro cyntaf ges i'n bwrw mas a meddwl i'n hunan ma' rywbeth ddim yn gywir fan hyn."

Yn ystod ei yrfa sgoriodd Shane Williams 58 cais mewn 87 gêm dros Gymru - y nifer mwyaf o geisiau gan unrhyw Gymro erioed.

"Fi wastad yn meddwl ydy fy nghof i'n dirywio achos mod i'n heneiddio?"

"Fi bob tro yn sgwennu pethau lawr beth bynnag - ai oedran fi yw e? Neu achos fi 'di cael cymaint o ergydion dros y blynyddoedd?"

Mae chwaraewyr bellach yn cael eu hasesu os ydyn nhw'n cael eu hamau o fod wedi dioddef cyfergyd, gall chwaraewyr yna gael eu hatal rhag dychwelyd i'r maes.

Ond mae’r cyn-asgellwr hefyd yn credu dylai’r awdurdodau gyfyngu ar nifer yr eilyddion sy'n cael dod i'r maes.

Daw'r ymchwil wrth i 200 o gyn-chwaraewyr proffesiynol ac amatur o Gymru a Lloegr gymryd camau cyfreithiol yn erbyn awdurdodau'r gamp am fethu â'u gwarchod o gyfergydion ac anafiadau i'r pen.

Mae World Rugby wedi croesawu ymchwil Prifysgol De Cymru ac wedi ymroi i "ddwblu ein buddsoddiad mewn lles chwaraewyr, a chamau ac ymchwil newydd i gyfergydion".

"Rydym yn croesawu pob ymchwil all helpu a chefnogi ein strategaeth ddiweddar i sicrhau mai rygbi yw'r gamp fwyaf blaengar ar les chwaraewyr," meddai'r corff.

"Mae hynny wrth galon popeth rydyn ni'n ei ddweud ac yn ei wneud."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.