Y gwasanaeth tân yn parhau i ymateb i dân yn Sir Caerffili
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn parhau i ymateb i dân ym Mhontllanfraith yn Sir Caerffili.
Dywedodd y gwasanaeth tân mewn datganiad nos Lun fod nifer o offer a cherbydau brys yn bresennol ar Stryd Commercial yn y pentref, a'u bod yn gofyn i aelodau o'r cyhoedd i osgoi'r ardal.
Fe fydd hyn yn sicrhau fod y criw yn gallu parhau i weithio yn ddiogel a chaniatáu llwybrau argyfwng i aros yn glir, medden nhw.
Ychwanegodd y gwasanaeth tân eu bod yn cynghori trigolion lleol i gadw ffenestri a drysau ar gau yn sgil y swm mawr o fwg yn yr ardal.
Llun: James Wilkins.