Cymru Premier: Pen-y-bont yn herio'r Seintiau
Yn dilyn saib ar gyfer rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD, bydd y sylw’n troi’n ôl at y gynghrair y penwythnos hwn.
Gyda naw gêm ar ôl i’w chwarae, mae’r Seintiau Newydd saith pwynt yn glir ar frig y tabl.
Ar ôl gêm gyfartal gyda Chaernarfon nos Wener, mae gan Gei Connah fwlch o ddeg pwynt dros Ben-y-bont yn y ras am yr ail safle, tra bod pethau’n llawer tynnach yn y Chwech Isaf.
Saith pwynt yn unig sy’n gwahanu’r pum clwb rhwng y 7fed a’r 11eg safle, sy’n golygu y bydd y clybiau rheiny i gyd yn llygadu lle yn y gemau ail gyfle.
Ac ar waelod y domen mae pethau’n edrych yn ddu ar Lanelli sydd ond wedi cipio un pwynt o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf.
CHWECH UCHAF
Y Seintiau Newydd (1af) v Pen-y-bont (3ydd) | Dydd Sadwrn – 12:30 (Arlein)
Mae’r Seintiau Newydd ar y trywydd cywir i hawlio’r bencampwriaeth am y bumed flwyddyn yn olynol gyda chriw Craig Harrison yn eistedd saith pwynt yn glir ar frig y tabl.
Mae’r Seintiau wedi ennill chwech o’u saith gêm ddiwethaf, a gyda rownd derfynol Cwpan Nathaniel MG i ddod ar ddiwedd mis Chwefror, bydd cewri Croesoswallt yn anelu i gwblhau dwbl domestig am y pumed tymor o’r bron.
Dyw Pen-y-bont yn sicr heb fod ar eu gorau yn ddiweddar, gan ennill dim ond un o’u saith gêm ddiwethaf (Llanelli 0-1 Pen-y-bont), a bydd Rhys Griffiths yn benderfynol o godi hyder ei hogiau cyn y gemau ail gyfle.
Enillodd y Seintiau eu dwy gêm yn erbyn Pen-y-bont yn rhan gynta’r tymor, a Jordan Williams oedd yr arwr yn yr ornest ddiwethaf, yn taro hatric mewn buddugoliaeth o 6-2 i’r pencampwyr yn Neuadd y Parc ym mis Hydref.
Record cynghrair diweddar:
Y Seintiau Newydd: ✅❌✅✅✅
Pen-y-bont: ➖➖✅➖➖
Y Barri (6ed) v Bae Colwyn (5ed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Roedd hi’n benwythnos siomedig i’r Barri a Bae Colwyn gyda’r ddau glwb yn colli yn rownd wyth olaf Cwpan Cymru JD.
Bydd Y Barri’n teimlo eu bod wedi colli cyfle euraidd i gyrraedd y rownd gynderfynol yn dilyn eu colled o 2-1 yn erbyn Y Rhyl 1879 o’r ail haen.
Roedd hi’n noson rwystredig i Fae Colwyn hefyd wrth iddyn nhw golli o 4-1 oddi cartref yn erbyn Caernarfon.
Un pwynt sy’n gwahanu’r ddau glwb yn y tabl, a bydd y timau’n brwydro i orffen mor uchel â phosib er mwyn ceisio sicrhau gêm gartref yn y gemau ail gyfle.
Dyw’r ddau dîm heb fod yn tanio’n ddiweddar gyda’r Barri wedi colli pedair o’u pum gêm ddiwethaf, a Bae Colwyn heb ennill mewn pedair gêm.
Y Barri gafodd y gorau o bethau yn rhan gynta’r tymor, yn ennill o 4-1 ar Ffordd Llanelian ym mis Tachwedd yn dilyn gêm gyfartal 1-1 ar Barc Jenner ym mis Awst.
Record cynghrair diweddar:
Y Barri: ✅❌❌✅❌
Bae Colwyn: ͏❌✅❌❌➖
CHWECH ISAF
Llanelli (12fed) v Y Fflint (10fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Mae’r Fflint wedi llwyddo i gamu i rownd gynderfynol Cwpan Cymru am y tro cyntaf ers tymor 1953/54, ac mae’r Sidanwyr wedi gwneud hynny heb ildio unwaith yn y gystadleuaeth eleni.
Byddai codi’r cwpan am y tro cyntaf ers 72 o flynyddoedd yn gamp anhygoel i dîm Lee Fowler, ond yn y cyfamser mae gan y tîm waith i’w wneud i ddringo o waelodion y tabl.
Dim ond un pwynt sy’n gwahanu’r Fflint a safleoedd y cwymp, sy’n golygu y bydd Lee Fowler yn disgwyl dim llai na thriphwynt yn erbyn Llanelli, sef y clwb ar waelod y tabl.
Mae Llanelli 16 pwynt o dan diogelwch y 10fed safle, ac ar ôl cipio dim ond un pwynt o’u 13 gêm gynghrair ddiwethaf gan sgorio dim ond 13 gôl mewn 23 gêm, mae gan Terry Boyle dasg anferthol o’i flaen i geisio achub y Cochion.
Llanelli a’r Fflint yw’r ddau glwb sydd â’r record amddiffynnol waethaf yn y gynghrair y tymor hwn gyda’r Cochion yn ildio cyfartaledd o 2.7 gôl y gêm, a’r Sidanwyr yn ildio 2.2 gôl y gêm.
Bydd blaenwr Y Fflint, Elliott Reeves yn methu aros tan brynhawn Sadwrn gan iddo sgorio hatric yn y ddwy gêm yn erbyn Llanelli yn rhan gynta’r tymor (Lli 0-5 Ffl, Ffl 4-0 Lli).
Record cynghrair diweddar:
Llanelli: ❌❌❌❌❌
Y Fflint: ➖❌✅❌✅
Y Bala (11eg) v Met Caerdydd (7fed) | Dydd Sadwrn – 14:30
Met Caerdydd sy’n dechrau’r penwythnos ar frig y Chwech Isaf, tra bod Y Bala’n eistedd yn safleoedd y cwymp, ond pum pwynt yn unig sy’n gwahanu’r ddau glwb.
Er eu safle addawol, dyw Met Caerdydd heb ennill yn eu chwe gêm ddiwethaf, a bydd Y Bala eisiau manteisio ar y diffyg hyder yng ngharfan y myfyrwyr.
Dim ond un gôl mae Met Caerdydd wedi sgorio yn eu pedair gêm ddiwethaf, ac mae prinder sgorwyr naturiol wedi bod yn broblem i’r myfyrwyr gan nad oes neb wedi sgorio mwy na pum gôl gynghrair i dîm Ryan Jenkins y tymor hwn.
Mae’r Bala wedi bod yn aelodau o’r uwch gynghrair ers 16 mlynedd, ac o’r clybiau presennol, Y Seintiau Newydd yw’r unig glwb arall sydd wedi aros yn y gynghrair yn ddi-dor ers tymor cynta’r Bala yn 2009/10.
Ond ar ôl 12 mlynedd yn y Chwech Uchaf, mae’r Bala wedi methu’r nod eleni ac mae’r clwb mewn perygl o syrthio i’r ail haen ar ôl colli 11 o’u 15 gêm ddiwethaf.
Dyw Met Caerdydd m’ond wedi colli un o’u 13 gornest ddiwethaf yn erbyn Y Bala (ennill 6, colli 6), ond fe gafon nhw ychydig o help gan y gwynt yn gynharach yn y tymor wrth i Lassana Mendes sgorio un o goliau rhyfeddaf y tymor i’w rwyd ei hun ar Gampws Cyncoed.
Record cynghrair diweddar:
Y Bala: ❌❌❌✅❌
Met Caerdydd: ͏➖❌➖➖❌
Bydd uchafbwyntiau’r gemau ar gael ar wefannau cymdeithasol Sgorio.