Dyn oedd ar ffo rhag yr FBI yn Nyffryn Conwy i gael ei anfon yn ôl i America
Bydd dyn a gafodd ei ddarganfodd yn byw mewn bwthyn ger Llanrwst yn Nyffryn Conwy ar ôl bod ar ffo rhag yr FBI am dros 20 mlynedd yn cael ei anfon yn ôl i'r Unol Daleithiau.
Yn ôl barnwr, mae digon o dystiolaeth i estraddodi Daniel Andreas San Diego, sy'n cael ei amau o ffrwydro cyfres o fomiau yng Nghaliffornia yn 2003.
Cafwyd hyd i Mr San Diego, 47 oed, ym Maenan lle'r oedd wedi prynu tŷ yno yn 2023.
Roedd yn un o'r prif unigolion ar restr chwilio'r FBI cyn iddo gael ei ddal ym mis Tachwedd 2024.
Fe wnaeth ei achos estraddodi ddechrau ym mis Medi'r llynedd yn Llys Ynadon Westminster yn Llundain.
Ar 28 Awst 2003, mae'n cael ei amau o fod wedi ffrwydro dau fom o fewn awr i'w gilydd ar gampws sefydliad bio-dechnegol Chiron yn San Francisco.
Yna ar 26 Medi 2003 roedd cyhuddiad ei fod wedi ffrwydro bom arall yng nghanolfan cynnyrch maeth Shaklee yn Pleasanton, California.
Cafodd Mr San Diego ei gyhuddo o achosi difrod a bod â ffrwydron yn ei feddiant pan gafodd y troseddau honedig eu cyflawni.
Dywedodd yr FBI yn flaenorol bod gan San Diego, a gafodd ei eni yn Berkeley, California, "gysylltiadau" â grwpiau eithafol ym maes hawliau anifeiliad a bod gwobr o $250,000 am wybodaeth amdano.