Rhaglen Netflix heb barchu preifatrwydd Lucy Letby meddai ei rhieni
Mae rhieni’r llofrudd babanod Lucy Letby wedi beirniadu rhaglen ar Netflix gan ddweud nad yw wedi parchu preifatrwydd ei merch.
Mae’r rhaglen ddogfen am yr achos yn cynnwys fideo gan yr heddlu o Letby yn cael ei harestio yn ei phyjamas a’i gwn nos yn ei chartref.
Dywedodd Susan a John Letby bod rhyddhau’r fideo wedi “ymyrryd yn llwyr ar breifatrwydd” eu merch.
Wrth siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers i’w merch gael ei charcharu am oes ym mis Awst 2023, dywedodd rheini Lucy Letby na fydden nhw yn gwylio’r rhaglen ddogfen.
“Mae’n debyg y byddai’n ein lladd ni pe byddem yn gwneud hynny,” meddai.
Cafodd Letby o Henffordd ei dedfrydu yn 2024 i 15 o ddedfrydau am oes ar ôl iddi gael ei chanfod yn euog o lofruddio saith baban a cheisio lladd chwe baban arall, gan geisio lladd un ohonynt ar ddau achlysur.
Digwyddodd y troseddu rhwng Mehefin 2015 a Mehefin 2016.
Ym mis Ionawr fe gadarnhaodd yr heddlu na fyddai yn wynebu unrhyw gyhuddiadau pellach i’r honiadau o lofruddio plant.
Trosglwyddodd Heddlu Sir Gaer dystiolaeth ychwanegol i Wasanaeth Erlyn y Goron y llynedd, yn gysylltiedig ag wyth trosedd posib o geisio llofruddio ac un drosedd posib o lofruddiaeth yn Ysbyty Countess of Chester.
Roedd dau honiad arall o geisio llofruddio a llofruddiaeth yn ymwneud ag un plentyn yn Ysbyty Menywod Lerpwl.
