Sanclêr: Cyhuddo gyrrwr lori oedd yn gyrru'n 'afreolaidd'
Mae dyn a gafodd ei arestio ar ôl gyrru lori mewn ffordd “afreolaidd” ar yr A40 rhwng Arberth a Sanclêr bellach wedi ei gyhuddo.
Roedd Tajinder Singh, 22 oed o Ffordd Tudor, Southall yng ngorllewin Lloegr, wedi bod yn gyrru er iddo eisoes cael ei wahardd rhag gwneud hynny.
Fe lwyddodd Heddlu Dyfed-Powys i atal Mr Singh rhag parhau i yrru’n ymhellach ar stad ddiwydiannol yn Fforestfach yn Abertawe, medden nhw.
Cafodd ei arestio wedi’r digwyddiad ddydd Iau.
Mae bellach wedi ei gyhuddo o yrru tra ei fod wedi’i wahardd, yn ogystal â defnyddio cerbyd ar ffordd heb yswiriant.
Mae wedi bod yn cael ei gadw yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys Ynadon Llanelli ddydd Gwener, 30 Ionawr.
