Athro drama yn osgoi carchar ar ôl cyfathrebu'n rhywiol gyda phlentyn

30/01/2026
Llys y Goron Merthyr Tudful

Mae athro drama o’r Cymoedd wedi osgoi carchar ar ôl iddo bledio’n euog i gyfathrebu’n rhywiol gyda phlentyn. 

Cafodd Matthew Bool, 36 oed o Hirwaun yng Nghwm Cynon, ddedfryd ohiriedig yn Llys y Goron Merthyr Tudful.

Mae hefyd wedi cael ei gofrestru fel troseddwr rhyw ac wedi derbyn gorchymyn atal niwed rhywiol ffurfiol. 

Roedd Bool, a oedd wedi gweithio gyda sawl grŵp ddrama yn ne Cymru, wedi anfon negeseuon rhywiol i blentyn a gymerodd rhan yn un o’r grwpiau. 

Dywedodd Loui Ellina o Heddlu’r De: “Rwy’n canmol y dioddefwr am ei ddewrder wrth iddynt gefnogi ein hymchwiliad a sicrhau bod Bool yn cael ei ddwyn i gyfrif.” 

Fe gafodd Bool ei ddedfrydu yn Llys y Goron Ferthyr Tudful ar 15 Ionawr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.