Galw am 'newid mawr' ar frys i achub byd natur yng Nghymru
Mae Cadeirydd newydd Cyfoeth Naturiol Cymru wedi galw am newid mawr ar frys er mwyn achub byd natur yng Nghymru.
Mae bron i un o bob pump rhywogaeth yn y wlad bellach mewn perygl o ddiflannu, ac dim ond 40% o gyrff dŵr sydd â statws da, meddai Neil Sachdev.
Yn ôl y cadeirydd, mae angen i Gymru ailystyried sut mae'n cynhesu cartrefi, tyfu bwyd, teithio a defnyddio'r tir os am osgoi gwaethygu'r argyfyngau hinsawdd a byd natur.
Daw ei sylwadau wrth i Gyfoeth Naturiol Cymru gyhoeddi adroddiad newydd ar sefyllfa amgylchedd naturiol y wlad, sef Adroddiad ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol (SoNaRR) 2025.
Dyma'r trydydd adroddiad i gael ei lansio ar y pwnc, ac fe gafodd yr un diwethaf ei gyhoeddi yn 2020. Mae'r adroddiad yn ofynnol o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Mae'r adroddiad yn asesiad o ba mor gynaliadwy y mae Cymru'n rheoli'r adnoddau naturiol sy'n cael eu defnyddio.
Mae'r adroddiad yn nodi fod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud ers yr adroddiad diwethaf yn 2020, ond mae'n dweud hefyd fod amgylchedd naturiol Cymru yn parhau i fod ar "bwynt tyngedfennol".
Yn ôl yr adroddiad, mae ffactorau gan gynnwys deddfwriaeth ansawdd aer, y Cynllun Ffermio Cynaliadwy a Rhaglen Mwyngloddiau Metel Cymru yn enghraifft o ddulliau wedi'u targedu i geisio mynd i’r afael â heriau amgylcheddol.
'Systemig'
Ond mae'n nodi hefyd fod Cymru yn parhau i ddefnyddio a threulio adnoddau naturiol yn gyflymach nag y mae'r adnoddau naturiol hyn yn gallu ymadfer.
Mae'r pwysau'n "systemig" ac wedi eu "hymgorffori" yn y ffordd yr ydym yn cynhesu cartrefi, teithio, tyfu a bwyta, yn ôl yr adroddiad.
Mae'r adroddiad yn cynnwys pennod sydd yn trafod y newid systemig sydd ei angen ar Gymru ar draws y sectorau hyn.
Mae'r rhain yn cynnwys "ailgynllunio systemau bob dydd, adfer byd natur fel seilwaith hanfodol, adeiladu economi adfywiol, ailalinio llywodraethu ar gyfer y tymor hir a chyflawni trawsnewidiad teg".
'Peryglu bywydau'
Dywedodd Cadeirydd CNC Neil Sachdev: "Mae'r [adroddiad] wedi dangos i ni nad yw’r pwysau mwyaf niweidiol ar fyd natur wedi’u cyfyngu i bolisi amgylcheddol.
"Maent wedi’u cynnwys yn y ffyrdd rydym yn cynhesu ein cartrefi, yn teithio, yn tyfu ac yn bwyta bwyd, yn defnyddio tir, ac yn y ffyrdd rydym yn buddsoddi mewn lleoedd.
"Os yw Cymru am barhau i fod yn wlad lle mae pobl a byd natur yn ffynnu, rhaid inni newid y systemau eu hunain – nid rheoli eu heffeithiau yn unig."
Ychwanegodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru: "Heb gamau brys, cydlynol ar draws y sector cyhoeddus i atal a gwrth-droi'r dirywiad peryglus fel y'i nodir yn Adroddiad CNC ar Sefyllfa Adnoddau Naturiol 2025, rydym yn llythrennol yn peryglu bywydau'n ddiangen.
"Byddai’r canlyniadau o fyw mewn gwlad lle mae byd natur yn rhy wan i'n cynnal yn effeithio fwyaf ar y bobl fwyaf difreintiedig, a byddai’n creu baich anferth ar genedlaethau'r dyfodol."
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog, Huw Irranca-Davies, sydd â chyfrifoldeb dros Newid Hinsawdd: "Mae diogelu a gwella natur yn hanfodol i bobl heddiw, ac i genedlaethau'r dyfodol.
"Mae pobl Cymru wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn hyn o beth – ond mae angen i ni fynd ymhellach eto."
