Penderfynol o barhau i ffermio ar ôl colli coes
Penderfynol o barhau i ffermio ar ôl colli coes
"Helo, Nia."
Helo 'na. Sut dach chi ydy'r cwestiwn?
"Dal i fynd."
Haf 2023 oedd hi pan newidiodd bywyd Alun Thomas am byth ar ôl cael ei daflu o'i feic cwad tra'n symud gwartheg.
Er ymdrechion i achub ei goes, roedd 'na benderfyniad anodd cyn Dolig.
"Aethon ni 'nôl i Stoke a sgwrsio am y tri point.
"Y diwetha o'dd amputation.
"A'r poen o'dd gen i, oes o'dd gen i hacksaw, byddwn yn ei dorri!
"Sna'm poen rwan.
"Yr unig peth dw i'n cael weithiau, phantom pain yn mynd lawr.
"Mae fel bod angen cosi bodiau'r traed."
Bydd yn her ond dach chi'n benderfynol o barhau i ffarmio.
"Ydw, ydw. Am bod fi'n caru ffarmio!
"Os yw dy galon di yn y peth ti'n mwynhau gwneud, go for it!
"Peiriannau fydd mwyaf, fel y tractor, y loader ond mae 'na firms yn gwneud hand brake a hand throttles ac ati."
Nid coes gyffredin prosthetig fyddwch chi angen ar gyfer ffarmio.
"All terrain, waterproof. Mae'n hollol wahanol.
"Mae 'di splitio fel bod modd balansio ar rough terrain.
"O dan hi, mae 'na fflap a ti'n pwyso'r sawdl i lawr ac mae 'na spring i fynd a chi 'mlaen fel neud y locomotion!"
Dach chi 'di llwyddo i gadw'n bositif trwy hyn i gyd ond dach chi'n teimlo bod digon o help ac ymwybyddiaeth o sefyllfa ffermwyr fel chi sy'n delio efo anabledd?
"Nagoes, dw i'm yn meddwl bod 'na ond dio'm yn beth cyffredin.
"Dw i 'di cael help gan hogiau lleol ond fel arall, wrth holi i gael help, mae pob drws yn cau!"
Mae'r gefnogaeth gan y gymuned wedi bod yn allweddol a merch Alun wedi sefydlu tudalen codi arian i helpu addasu'r ffarm.
"Pawb 'di bod mor garedig ond mi fydd o'n help i ailwneud y peiriannau.
"Fel mae Alun yn mynd 'nôl allan ac yn dechrau gwneud pethau adeg hynny, byddwn ni'n gweld beth fydd angen gwneud yn wahanol."
Dach chi'n troi'n 70 eleni a dim bwriad o roi'r gorau i ddim byd.
Sut dach chi'n teimlo yn edrych tua'r dyfodol?
"Mae 70 yn ifanc heddiw a bydd 'na dipyn o barti, dw i'n meddwl!
"Mae gen i lot o waith diolch i bobl."
Diolch a dathlu ar gychwyn pennod newydd.
