Beth nesaf i heddluoedd Cymru dan gynlluniau'r Ysgrifennydd Cartref?
Beth nesaf i heddluoedd Cymru dan gynlluniau'r Ysgrifennydd Cartref?
O dan gynlluniau'r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood y ddarogan yw y bydd y nifer o heddluoedd yng Nghymru a Lloegr yn cael eu lleihau'n sylweddol o'r 43 presennol er mwyn taclo troseddu difrifol fel llofruddiaethau a'r masnach gyffuriau a lleihau biwrocratiaeth.
Bydd ardaloedd plismona lleol hefyd i daclo troseddau llai difrifol.
Mae 'na alwadau wedi bod gan rai i greu un llu i Gymru.
Wnes i holi barn rhai o bobl Caerfyrddin.
"Mae 'na broblemau a dyle fe fod fel y mae.
"Dw i'n gwybod bod nhw'n gorfod torri 'nol mewn arian ac ati ond mae'n bwysig i gael pobl lleol sy'n 'nabod yr ardal."
"Rhaid cael y niferoedd o'r heddlu ar y stryd lle mae pethau'n digwydd.
"Dim mewn swyddfa, mae pethau'n digwydd fan hyn."
"Dw i'm yn meddwl bod e'n syniad da. Mae'n well bod pethau'n fwy agos."
"Gallai weld y pwynt i leihau nifer o'r brass ar y top.
"Efallai bydde un dros Gymru i gyd.
"Rhaid cydweithio gyda'r ardaloedd ar arfordir Cymru a Lloegr achos mae lot o fynd a dod o'r bobl drwg dros y ffin!"
Bydd Comisiynwyr Heddlu a Throsedd fel un Dyfed-Powys yn mynd yn 2028.
Does dim gwybodaeth eto am beth fydd yn eu lle yma yng Nghymru.
Mae Dafydd Llywelyn yn dadlau nad oes digon o ffocws 'di bod ar Gymru.
Mae'n galw am greu un llu i Gymru fel sydd wedi digwydd yn yr Alban.
Oes digon o sylw wedi bod i Gymru yn ystod y trafodaethau 'ma?
"Yn bersonol, dw i'm yn teimlo bod digon o sylw i Gymru.
"Yn aml, mae cyhoeddiadau'n cael eu gwneud cyn meddwl am Gymru.
"Gobeithio bydden nhw'n gwrando arnon ni.
"Mae trafodaethau wedi bod gyda'r Llywodraeth a'r Swyddfa Gartref ynglŷn â'r strwythurau newydd fydd yn dod ar ôl cyhoeddi'r papur gwyn."
Mae 'na wahaniaethau barn ynglŷn ag un llu i Gymru.
A rhai am i Ogledd Cymru gydweithio gyda Gogledd-orllewin Lloegr.
"Mae Gogledd Cymru'n gwneud lot o waith gyda Gogledd Lloegr.
"Ond, o ran yr elfennau cyfansoddiadol sydd gyda ni nawr bod datganoli i Lywodraeth Cymru mae'n gwneud synnwyr i'r awdurdodau iechyd a'r rhai lleol ddod o dan gyfundrefn sy'n Gymreig ei naws.
"Mae'n gyfle i ddatganoli pwerau plismona i'r Senedd yng Nghaerdydd."
Roedd hi'n ddiddorol holi'r bobl yng Nghaerfyrddin heddiw.
Eu consern mawr oedd faint o blismyn fydd ar y stryd nid y strwythur.
"Dw i'n cytuno gyda'r cyhoedd.
"Y pwysigrwydd i ni yw sicrhau bod timau plismona bro a'r swyddogion sy'n gweithio yn ein cymunedau yn cael eu clustnodi i aros o fewn ein cymunedau."
Disgwylir manylion pellach am hyn gael eu cyhoeddi'r penwythnos hwn gyda phapur gwyn i'w gyhoeddi dechrau wythnos nesaf.
Dyma mae'n debyg bydd y newidiadau mwyaf i blismona am 50 mlynedd.
