Cynlluniau addysg Gymraeg Caerdydd yn 'gawdel'
Cynlluniau addysg Gymraeg Caerdydd yn 'gawdel'
Casglu plant o Ysgol Hamadryad yn Nhre-biwt.
Nid am y tro cyntaf, gallai rhai o blant yr ysgol gael trafferth i gael lle yn eu hysgol uwchradd Gymraeg leol.
Fel mae pethau'n sefyll, ym Medi 2027 does dim lle yn nhair ysgol uwchradd Gymraeg y sir i'r holl blant fydd yn symud o'r cynradd.
"Mae 'na broblem o ran gosod cynsail bod rhai plant yn cwympo mas o'r system Gymraeg yn gyfan gwbl ac yn mynd i ysgolion uwchradd Saesneg oherwydd diffyg darpariaeth a chynllunio ar ran y Cyngor.
"'Dan ni'n gwybod bod y broblem yma'n bodoli ar gyfer 2027 ers sbel.
"Bydd yn codi eto'n y dyfodol."
Bydd Cyngor Caerdydd yn cynnal trafodaeth gyhoeddus ynglŷn â darparu addysg Gymraeg yn y brifddinas.
Ymhlith y syniadau, mae sefydlu pedwaredd ysgol uwchradd symud Ysgol Bro Edern i safle arall sefydlu campws Chweched Dosbarth cyfrwng Cymraeg a sefydlu darpariaeth Cymraeg mewn ysgol uwchradd Saesneg.
Bu i ymgynghorydd addysg blaenllaw gwestiynu blaenoriaethau'r Cyngor.
"Mae'r twf wedi bod yn yr arfaeth ers amser ac roedd isie datrysiadau.
"Tra bod arian cyfalaf mawr wedi'i wario mewn mannau eraill yn y ddinas, dyw hwn heb gael ei ateb.
"Mae hynny'n gofyn y cwestiwn, ble maen nhw 'di bod?
"Mater gwleidyddol yw hynny."
"Ehangiad dros dro sydd ei angen ond 'dan ni'n edrych ar sut mae ateb y galw o fewn yr un amserlen ag unrhyw sefyllfa arall."
Dros y 15 mlynedd ddiwethaf, mae bron i hanner biliwn o bunnoedd wedi'i wario ar ysgolion yn y brifddinas.
Mae pum ysgol uwchwradd cyfrwng Saesneg newydd wedi eu hadeiladu eisoes ac mae 'na ddwy arall ar y ffordd.
Gwadu bod y sector Saesneg yn cael ffafriaeth mae Arweinydd y Cyngor.
"Beth sydd wedi gyrru'r rhaglen yna o fuddsoddi ydy beth yw condition yr ysgolion.
"Dim byd i'w wneud gydag iaith, mond ymateb i'r ffaith bod nifer o'r ysgolion Saesneg ar ddiwedd eu bywyd.
"Ni 'di addysgu rhai o ddisgyblion yr ysgolion hynny yn Neuadd y Sir yma am gyfnod yn y pum mlynedd diwethaf oherwydd bod issues gyda'u hysgolion nhw.
"Felly, mater o ansawdd yr adeiladau.
"'Dan ni'n derbyn bod 'na heriau o ran ansawdd gydag ysgolion uwchradd Cymraeg hefyd ac mae 'na fuddsoddi wedi bod"
Mae'r syniad o symud Ysgol Bro Edern i safle mwy deheuol yn poeni ymgyrchwyr dros bedwaredd ysgol uwchradd.
"Pam nad yw'n cymuned ni yn cael ystyriaeth?
"Pam nad oes gennym ni ysgol uwchradd yn barod?
"Pam fod rhaid i ni golli mas?
"Os oes gyda chi ddinas maint Caerdydd synnwyr cyffredin yw cael ysgolion Cymraeg yn y gorllewin, y gogledd, y dwyrain a'r de."
Er yn gwyntyllu nifer o syniadau mae'r Cyngor hefyd yn cyfeirio at rwystrau o ran safleoedd arian, staff a maes o law, prinder plant.
"Mae ton yr adroddiad yma ag ansicrwydd drwyddo fe gyd.
"Dyw e ddim yn llesol yn y diwedd achos mae pobl yn gofyn ydyn nhw o ddifri am ddatrys y problemau 'ma?
"Mae e'n gawdel."
Bwrw ymlaen a'r drafodaeth yw'r bwriad ond mae rhai yn teimlo fod 'na ormod o siarad a ddim digon o weithredu eisoes.
