'Dim datrysiad mawr' wedi cyhoeddiad am ddyfodol yr Ynys Las
'Dim datrysiad mawr' wedi cyhoeddiad am ddyfodol yr Ynys Las
Ydy dyfodol yr Ynys Las yn gliriach wedi'r cyhoeddiad neithiwr?
Daeth hwnnw wedi dyddiau o densiynau, dadlau a gwrthdaro rhwng America a rhai o wledydd Ewrop yn dilyn bwriad yr Arlywydd Trump i gymryd rheolaeth o'r diriogaeth.
Roedd y Prif Weinidog, Syr Keir Starmer ar ymweliad yn ne Lloegr heddiw.
Yn ddiweddarach, dywedodd bod y datblygiad yn un arwyddocaol.
"We've been closely coordinating with allies over the last few days.
"What's happened now is good in the sense that the threat of tariffs has gone.
"Now we can get on with the job of rolling up our sleeves and answering the question how do we improve security in the Arctic which everybody agrees with."
Daeth y cyhoeddiad am y cytundeb posib ar yr Ynys Las yn dilyn cyfarfod rhwng yr Arlywydd ac Ysgrifenydd Cyffredinol NATO yn Fforwm Economaidd y Byd yn Davos.
Does fawr o fanylion ar hyn o bryd ynghylch y cynnwys.
Ond yn ôl Mr Trump bydd hawliau dros fineralau gwerthfawr yn rhan ohono.
Mae'r Ynys Las yn rhan o Ddenmarc.
Bu Prif Weinidog y wlad honno'n diolch i Mr Starmer am ei gefnogaeth wrth i'r ddau gyfarfod yn gynharach.
"Dw i'n cael yr argraff bod y rhan fwyaf o Ddanwyr ddim yn credu bod 'na ddatrysiad mawr wedi digwydd ddoe.
"Yn enwedig gan nad oedd yn cynnwys neb o Ddenmarc na'r Ynys Las.
"Mae hynna'n eithaf rhyfedd."
Oes 'na bryderon yn parhau yn Nenmarc ynghylch sofraniaeth y wlad dros yr Ynys Las?
"Yn bendant.
"Mae Denmarc yn wlad bychan mewn byd sy'n newid yn gyflym iawn.
"Mae'r hen drefn yn dod i ben.
"Mae'r byd 'dan ni wedi byw ynddo ers yr Ail Ryfel Byd lle mae 'na reolau am beidio dwyn tiriogaeth gwlad arall yn cael ei ddymchwel gan Trump."
Ydy perthynas America ac Ewrop bellach yn wanach o ganlyniad i'r anghytuno diweddar?
"Mae'n rhaid i ni ddal ati i sicrhau bod ni'n gweithio gyda'n gilydd gyda gwledydd eraill a NATO i sicrhau ein diogelwch.
"Mae hynny'n fwy pwysig nag erioed oherwydd y bygythiad gan Rwsia a'r ffaith bod yr Arctig yn fwy agored nawr na roedd o.
"Mae'n bwysig cydweithio gyda NATO."
Yn y cyfamser, bu'r Arlywydd Zelensky o Wcrain yn cyfarfod Mr Trump heddiw.
Dywedodd bod 'na gytundeb rhwng y ddwy ochr ar warantau diogelwch petai cadoediad gyda Rwsia.
Mae 'na gwestiynau'n parhau, felly, am ffawd y lle yma.
Yn ôl Prif Weinidog y diriogaeth dydy o ddim yn gwybod manylion y cytundeb.
Ond mae sofraniaeth, meddai, yn llinell goch.
