Rhybudd y gall ffermydd fynd i'r wal yn sgil gostyngiad mewn pris llefrith
Rhybudd y gall ffermydd fynd i'r wal yn sgil gostyngiad mewn pris llefrith
'Dy'r gwaith heb newid na chwaith y cynnyrch.
Mewn byd ansefydlog, mae prisiau ar garlam i'r cyfeiriad anghywir.
'Dan ni'n godro rhyw 150.
Gyda degawdau o brofiad yn godro ac yn gyn-gyfarwyddwr hufenfa leol mae Rhishiart Lewis 'di gweld sawl tro ar y farchnad laeth ond dim byd tebyg i hyn.
"Mae hwn y cwymp mwya sydyn 'dan ni 'di cael erioed.
"Mae pethau wedi bod fel hyn ar hyd y blynyddoedd ond mae'r drop mwyaf 'dan ni 'di cael ers mis Awst a September."
Yn ariannol, beth mae 'di golygu i chi dros y misoedd diwethaf?
"Ie, son am ffigyrau sydyn.
"'Sach chi'n sbio ar bris llefrith, roedd o'n 44c y litr ym mis Awst.
"Ond i fyny i ddiwedd Chwefror, bydda i 'di colli rhyw £35,000 yn llai o incwm yn dod mewn."
Yn ol ymchwil cychwynnol gan Undeb Amaethwyr Cymru mae pris cyfartalog litr o lefrith oddeutu 30c i 35c y litr.
Ond mae cost cynhyrchu i'r ffermwr rhwng 39c i 44c.
Mae'n golygu bod ffermwyr yn wynebu colledion heb feddwl am wneud elw.
"Mae'n dangos bod ein ffermwyr llaeth ni'n rhedeg ar golled a hynny o 4c y litr ar gyfer pob litr o laeth maen nhw'n cynhyrchu.
"Dyw hynny ddim yn gynaliadwy.
"Gyda hynny, os nag yw'r busnes yn gallu gwneud arian mae'r busnes ddim yn mynd i oroesi a byddwn ni'n colli ffermwyr"
Yn ol Dairy UK, mae'r gostyngiad mewn prisiau yn rhannol oherwydd yr hyn sy'n digwydd ymhell o Gymru.
Gyda mwy o lefrith yn cael ei gynhyrchu dramor ac yng Nghymru mae'r galw wedi aros yn wastad a hynny'n golygu bod gwerth y cynnyrch wedi gostwng.
A phryder rwan am y sgil effeithiau.
"It is a huge driver of ancillary industries such as machinery dealers, veterinary surgeons and other support sectors.
"Less money going into the dairy sector means that doesn't filter in the wider, rural economy."
Mae'n effeithio ar amaethwyr ar draws y byd a nol yma yng Nghymru.
Dros y dyddiau diwethaf, dw i 'di siarad efo nifer o ffermwyr sy'n dweud bod y sefyllfa ar hyn o bryd yn anghynaladwy.
Doedd nifer ddim yn gallu siarad ar gamera oherwydd bod cymalau yn eu cytundebau nhw gyda phroseswyr yn dweud bod nhw methu beirniadu'r sefyllfa.
Yn ol un, mae'n dangos grym y proseswyr o fewn y sector.
"Mae nifer o'n ffermwyr ni mewn lle tywyll ar hyn o bryd.
"Mae lot yn dioddef ac yn poeni a ddim yn gweld ble byddan nhw'n gallu goroesi hyn mewn chwech, wyth, deuddeg mis."
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod y pwysau sydd ar y sector gan ddeud bod cymorth ar gael i wella perfformiad.
Mynnu mae arbenigwyr y bydd y farchnad yn sefydlogi ond does fawr arwydd pryd fydd hynny'n digwydd ac amaethwyr ledled Cymru'n paratoi at wanwyn digon heriol.
