Capten Wrecsam James McClean yn gadael y clwb i ddychwelyd i Iwerddon
Mae capten Wrecsam, James McClean wedi gadael y clwb er mwyn dychwelyd i Iwerddon.
Fe wnaeth y clwb gadarnhau nos Sadwrn bod y chwaraewr 36 oed wedi gadael i ymuno â Derry City yn Iwerddon.
Sgoriodd wyth o goliau mewn 108 ymddangosiad i Wrecsam.
Dywedodd prif weithredwr y clwb, Mike Williamson wrth BBC Radio Wales Sport fod perchnogion y clwb, Ryan Reynolds a Rob McElhenney yn parchu dymuniadau McClean i adael.
"Rydym yn glwb sydd wedi bod yn gefnogol o'r hyn mae chwaraewyr eisiau gwneud a rhoi'r cyfleoedd maen nhw'n edrych amdanynt iddyn nhw," meddai.
"Mae hynny wedi dod yn syth gan Rob a Ryan, maen nhw wedi dangos hynny gyda rhai o'r chwaraewyr sydd ddim yn rhan o'r garfan wrth i ni godi trwy'r cynghreiriau.
"Gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw gyfle i wneud rhywbeth sydd yn bwysig iddynt a byddwn yn cefnogi'r chwaraewyr 100%.
'Mae'n sefyllfa debyg gyda James."