Musk yn dweud na fydd Grok yn creu delweddau hanner noeth o bobl go iawn ar ôl beirniadaeth

Elon Musk

Mae’r cyfrwng cymdeithasol X wedi cyhoeddi newidiadau i raglen deallusrwydd artiffisial Grok er mwyn ei atal rhag creu delweddau hanner noeth o bobl go iawn.

Daw hyn wedi i’r rheoleiddiwr Ofcom ddweud eu bod nhw’n ymchwilio, ac i’r Prif Weinidog, Keir Starmer, fygwth gwahardd y platfform.

Dywedodd X eu bod nhw wedi cyflwyno mesurau technolegol er mwyn atal Grok rhag creu delweddau o bobl yn hanner noeth.

“Rydym wedi gweithredu mesurau technolegol i atal cyfrif Grok rhag caniatáu golygu delweddau o bobl go iawn mewn dillad sy’n datgelu’r corff, fel bicinis,” meddai’r datganiad.

“Mae’r cyfyngiad hwn yn berthnasol i bob defnyddiwr, gan gynnwys tanysgrifwyr sy’n talu.”

Cyhoeddwyd y newid oriau’n unig ar ôl i Brif Erlynydd talaith California yn yr UDA ddweud eu bod yn ymchwilio i ledaeniad delweddau rhywiol wedi’u creu gan ddeallusrwydd artiffisial.

Fe fydd Grok yn gallu creu delweddau rhannol noeth o “oedolion dychmygol”, meddai perchennog X, Elon Musk, mewn datganiad.

“Dyna’r safon de facto yn America,” meddai.

“Bydd hynny yn amrywio o ranbarth i ranbarth yn dibynnu ar eu deddfau cenedlaethol.”

‘Camfanteisio’

Roedd menywod yng Nghymru wedi galw ar Elon Musk i fynd i’r afael â delweddau ‘deepfake’ AI ar y cyfrwng.

Un o’r rheini sydd wedi dioddef yr un driniaeth yw Dr Daisy Dixon, darlithydd mewn Athroniaeth ym Mhrifysgol Caerdydd.

Cafodd llun ohoni ei hun yn y gampfa ei fwydo i mewn i declyn Grok heb ei chaniatâd.

Dywedodd Dr Dixon fod gweld dieithriaid yn creu delweddau amhriodol o’i lluniau yn teimlo fel “trosedd ddigidol”.

“Mae wedi effeithio ar y ffordd rwy’n edrych ar fy nghorff,” meddai. “Dwi’n teimlo bod angen cuddio fy hun nawr.

“Dwi hefyd yn poeni am bwy fydd yn derbyn y lluniau hyn.”

Un arall a gafodd ei heffeithio oedd Jess Davies o Aberystwyth.

Dywedodd yr ymgyrchydd hawliau merched ei bod wedi ei thargedu ar ôl iddi feirniadu Grok.

“Mae’r ffaith bod Grok yn dal i greu delweddau anghydsyniol o fenywod yn ddewis. Gallant atal hyn, ond yn lle hynny maent yn normaleiddio camfanteisio ar fenywod,” meddai mewn datganiad ar X ddechrau’r mis.

"Rydw i wedi gweld menywod yn cael eu rhoi mewn safleoedd rhyw, wedi eu noethi, wedi'u gorchuddio â 'donut glaze' a hyd yn oed wedi'u baeddu."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.