Caerdydd: Apêl am wybodaeth gan ddau unigolyn wedi ymosodiad angheuol

09/01/2026
Colm Boston

Mae’r heddlu yn apelio am wybodaeth gan ddau unigolyn yn dilyn ymosodiad yng Nghaerdydd a wnaeth arwain at farwolaeth dyn fis diwethaf.

Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Pentyrch yn ardal Cathays o'r brifddinas ar 22 Rhagfyr yn dilyn adroddiad am ymosodiad yno.

Bu farw'r dioddefwr, Colm Marcus Boston, 37 oed, o'r Mynydd Bychan, bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru.

Yn ôl tystion, roedd car gydag o leiaf dau deithiwr ynddo wedi dod i stop wrth ymyl y dioddefwr ar noson yr ymosodiad honedig, gyda’r gyrrwr yn cynnig cymorth iddo.

Yna fe wnaeth y car, a gredir ei fod yn Ford Fiesta, yrru i ffwrdd.

Mae Heddlu De Cymru yn galw ar y dyn a’r fenyw maen nhw’n credu oedd yn teithio yn y car, i gysylltu â nhw.

Cafodd dyn 29 oed o'r Sblot ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o ymosod a bod ag arf yn ei feddiant.

Mae wedi ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae teulu Mr Boston wedi cael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf.

Mae tri dyn arall a gafodd eu harestio'n flaenorol bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.