'Diolch am roi cariad oes at chwaraeon i mi': Teyrnged Gabby Logan i'w thad Terry Yorath
Mae'r darlledwr Gabby Logan wedi rhoi teyrnged i'w thad, cyn-chwaraewr a rheolwr pêl-droed Cymru Terry Yorath a fu farw yn 75 oed yr wythnos hon.
Wedi ei eni a'i fagu yng Nghaerdydd, fe enillodd Terry Yorath 59 o gapiau dros Gymru rhwng 1969 a 1981 ac roedd yn hyfforddwr ar ei wlad rhwng 1988 ac 1993.
Roedd hefyd yn hyfforddwr ar Abertawe a Chaerdydd am gyfnodau yn y 1990au.
Roedd ei ferch, Gabby Logan, yn cyflwyno rhaglen Match of the Day nos Fercher cyn iddi orfod gadael yn ddirybudd yn ystod y darllediad.
Mewn teyrnged iddo ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd Ms Logan: "Roedd ein tad yn arwr ar y cae, gan fod yn gapten i'w glwb a'i wlad, ac yn ddyn caredig a hael oddi arno."
Ychwanegodd ei bod wedi treulio'r diwrnod cynt yng nghwmni ei thad yn yr ysbyty, gan drafod eu hoff brydau bwyd.
"Roeddem ni'n gwybod mai amser cyfyngedig oedd gennym ni, ond mae'n dal i fod yn sioc," meddai.
Bu farw mab Yorath, a brawd Gabby, Daniel yn 15 oed yn 1992 o gyflwr ar y galon wrth chwarae pêl-droed gartref gyda'i dad.
Yn ogystal â Gabby a Daniel, roedd ganddo ddau o blant eraill, Louise a Jordan.
"Mae e bellach yn ôl gyda Daniel, ac fe fydd hynny yn teimlo fel adref," meddai Logan yn y deyrnged.
Roedd Yorath yn chwaraewr a'n is-hyfforddwr i Bradford ac roedd yn bresennol yn Valley Parade yn 1985 pan y cafodd 56 o bobl eu lladd.
Ychwanegodd Gabby Logan: "Dwi mor sori ei fod wedi gorfod delio gyda chymaint o boen, roedd trasiedi tân Bradford yn ei galon am byth ac fe wnaeth colli Daniel ddiffinio ail hanner ei fywyd.
"Diolch Dad am feithrin dy angerdd am degwch. Diolch am chwarae rownderi, neu wneud i ni rasio ar ôl ein gilydd ar ôl swper, hyd yn oed os y byddai Louise wastad yn curo.
Fe wnaeth hi hefyd ddiolch i'w thad am feithrin "cariad oes am chwaraeon" ynddi.
Llun: Gabby Logan / Instagram
