Arestio dyn yn dilyn marwolaeth dyn arall wedi ymosodiad yng Nghaerdydd
Mae dyn wedi cael ei arestio yn dilyn marwolaeth dyn arall wedi ymosodiad yng Nghaerdydd cyn y Nadolig.
Cafodd yr heddlu eu galw i Stryd Pentyrch yn ardal Cathays o'r brifddinas ar 22 Rhagfyr yn dilyn adroddiad am ymosodiad yno.
Bu farw'r dioddefwr, Colm Marcus Boston, 37, o'r Mynydd Bychan, bedwar diwrnod yn ddiweddarach yn Ysbyty Athrofaol Cymru.
Cafodd dyn 29 oed o'r Sblot ei arestio ddydd Mercher ar amheuaeth o ymosod a bod ag arf yn ei feddiant.
Mae'n parhau yn y ddalfa ac mae teulu Mr Boston wedi cael gwybod am y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae tri dyn arall a gafodd eu harestio'n flaenorol bellach wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Mewn teyrnged yr wythnos diwethaf dywedodd teulu Colm Boston eu bod wedi eu llorio gan ei farwolaeth.
“Roedd Colm yn dad, yn fab, yn gefnder ac yn ffrind annwyl iawn i nifer o bobl yng Nghaerdydd a thu hwnt,” meddai’r datganiad.
"Roedd Colm yn byw bywyd cymhleth, gydag uchafbwyntiau ac isafbwyntiau, ond roedd yn angerddol yn ei gariad at y bobl yn ei fywyd ac roedd yn eithriadol o bwysig i sawl un. Mae ei golled wedi cael effaith ddwys ar bawb a oedd yn ei adnabod.
"Yn dilyn y digwyddiad ddydd Llun, 22 Rhagfyr, bu farw Colm yn yr ysbyty ar Ddydd San Steffan. Rydym yn cael ein cefnogi gan Swyddog Cyswllt Teuluol ac rydym yn ddiolchgar am y tosturi y mae pobl wedi'i ddangos i ni yn ystod yr amser eithriadol o anodd hwn.
"Hoffem fynegi ein gwerthfawrogiad diffuant i'r nyrsys a'r meddygon yn Ysbyty Athrofaol Cymru, a oedd yn arbennig yn eu gofal, eu proffesiynoldeb a'u cefnogaeth ddi-ildio i Colm a'n teulu. Ni chaiff eu caredigrwydd a'u hymroddiad fyth ei anghofio.
"Diolch i bawb am eu cefnogaeth, eu parch a'u dealltwriaeth wrth i ni ddod i delerau â'r golled enbyd hon."
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth gysylltu â'r heddlu, gan dyfynnu'r cyfeirnod 2500404113.