Cam yn nes at adeilad newydd i ysgol uwchradd ym Môn ar ôl trafferthion concrid RAAC

Ysgol Uwchradd Caergybi

Mae'r cam nesaf mewn cynllun i gael adeilad newydd ar gyfer ysgol uwchradd ym Môn a gafodd ei tharo gan drafferthion concrid RAAC wedi cael ei gymeradwyo.

Mae Cyngor Môn wedi cytuno i fwrw ymlaen â chynlluniau i symud Ysgol Uwchradd Caergybi i adeilad ysgol newydd gwerth £66 miliwn.

Fel rhan o'r broses, roedd cynghorwyr wedi ystyried adroddiad gwrthwynebiad a fydd yn cael ei gyflwyno i weinidogion ar gyfer penderfyniad terfynol.

Mewn cyfarfod dydd Mawrth, dywedodd y cyngor bod disgwyl i weinidogion gymeradwyo'r cynnig ym mis Mawrth.

Dyma un o'r ysgolion cyntaf i gael ei tharo yn ystod argyfwng concrit RAAC yn 2023, ac mae wedi bod angen gwaith cynnal a chadw costus i'w chadw i redeg.

Roedd y cyngor wedi ystyried opsiynau gwahanol ar gyfer yr ysgol, gan gynnig yn y pen draw symud disgyblion i ysgol newydd.

Mae'r safle sydd o dan sylw ar dir ger Canolfan Hamdden Caergybi yn y dref.

Beth yw'r farn?

Fe wnaeth y cyngor geisio barn y cyhoedd ac roedd 79% o blaid symud disgyblion i adeilad newydd a 21% yn erbyn.

Yn dilyn ymgynghoriad derbyniwyd cyfanswm o 1,023 o ymatebion drwy ffurflen ar-lein, gyda'r mwyafrif gan rieni a disgyblion.

Roedd y cyngor wedi ystyried yr adroddiad gwrthwynebiad, a oedd wedi tynnu sylw at sylwadau'r cyhoedd ac ymatebion y cyngor.

Ymhlith y sylwadau oedd bod yr ysgol newydd "ymhell allan o'r dref" a phryderon am ddiogelwch ffyrdd, effaith ar y gymuned, allyriadau carbon, a cholli'r hen ysgol a'i hanes lleol "arwyddocaol".

Ymhlith ei ymatebion, roedd y cyngor wedi disgrifio sut yr oedd wedi cynnal "gwerthusiad manwl o opsiynau".

Fe wnaeth y cyngor dynnu sylw at bresenoldeb RAAC gan nodi mai dim ond "atebion tymor canolig" oedd y mesurau diogelwch presennol.

Roedd yr adroddiad hefyd wedi disgrifio sgôr "Gradd C" yr hen ysgol fel "gweithredol ond angen atgyweirio neu ailosod mawr yn y tymor byr i ganolig". 

Byddai'n costio tua £28,985,743 i gynnal a chadw'r adeilad presennol yn y dyfodol, yn ôl amcangyfrifon yr adroddiad.

Byddai gan yr ysgol newydd £66 miliwn le i 900 o ddisgyblion, a byddai'n ddibynnol ar gyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r cyngor yn rhagweld y bydd eu cyfraniad tuag at gostau blynyddol yr ysgol newydd yn £1,238,218 am 25 mlynedd.

Roedd yr adroddiad yn ystyried hyn i fod yn "fforddiadwy" a byddai'n cael ei ariannu o ddyddiad agor yr ysgol ym mis Medi 2030 ymlaen.

Dywedodd dirprwy arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Robin Wyn Williams: "Rwy’n credu ei bod hi’n bwysig pwysleisio mai un o’r prif resymau dros symud ymlaen â’r cynllun hwn oedd oherwydd y problemau gyda’r strwythur gyda RAAC, rydyn ni’n gwybod nad yw'r adeilad yn un hirdymor fel y mae.

"Yr unig ateb ymarferol yw bod yn rhaid i ni chwilio am adeilad arall yng Nghaergybi a dyma’r safle mwyaf priodol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.