Tyson Fury'n gobeithio y bydd ei ornest gydag Anthony Joshua yn digwydd yng Nghaerdydd

Tyson Fury

Mae'r bocsiwr Tyson Fury wedi dweud ei fod yn gobeithio y bydd ei ornest gydag Anthony Joshua yn digwydd yng Nghaerdydd.

Mae cryn ddyfalu wedi bod am leoliad yr ornest pwysau trwm ym mis Rhagfyr, gyda Stadiwm Principality yn y brifddinas yn geffyl blaen yn y dewis o leoliad erbyn hyn.

Ar un cyfnod roedd Madison Square Garden yn Efrog Newydd ar ben y rhestr o leoliadau, ond fe wnaeth cytundeb Fury fynnu fod yr ornest yn digwydd ym Mhrydain.

Un o fanteision Stadiwm Principality yw bod modd cau'r to ar gyfer y digwyddiad.

Byddai cynnal yr ornest mewn stadiwm heb do wedi bod yn ddewis dewr o gofio am dywydd gaeafol mis Rhagfyr.

Mae disgwyl cyhoeddiad swyddogol am union leoliad y digwyddiad yr wythnos hon.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol ddydd Mawrth, dywedodd Tyson Fury y byddai dewis Caerdydd fel lleoliad yn "anhygoel."

"Os yw'r ornest hon yn digwydd yng Nghymru fe fyddai'n anhygoel.

"Mae pobl fy mam i gyd yn dod o Gymru. Fe fyddai fel mynd adref", ychwanegodd.

Elfen arall sydd wedi creu cymlethdod yn y paratoadau yw'r angen i amser yr ornest gydfynd gydag amseroedd gwylio cynulleidfa yn yr Unol Dalaethiau.

Byddai gornest yng Nghaerdydd am 01:00 yn gweddu'r Americanwyr, gyda'r amser yma yn 20:00 ar arfordir dwyreiniol yr UDA.

Mae'r syniad o gynnal yr ornest yn Wembley wedi wynebu heriau gweinyddol a phryderon am ddiogelwch, gyda'r angen i Gyngor Brent y ddinas roi caniatad i'r digwyddiad.

Mae gornes hwyr yn y nos wedi ei chynnal yn Stadiwm Principality o'r blaen - sydd yn gosod cynsail o blaid dewis Caerdydd fel lleoliad.

Cafodd gornest Joe Calzaghe yn erbyn Mikkel Kessler yn y stadiwm ei chynnal yn 2007, gyda'r ymladd yn dechrau am 02:00 amser lleol.

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.