Ystradgynlais: Arestio dau berson mewn cysylltiad â lladrad mewn clwb rygbi
Mae dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad â lladrad mewn clwb rygbi ar Ddydd San Steffan.
Bu'n rhaid i Glwb Rygbi Ystradgynlais gau am ddau ddiwrnod wedi'r digwyddiad.
Rhannodd y clwb rygbi luniau teledu cylch cyfyng o bobl yn cerdded tuag at yr adeilad.
Maen nhw'n dweud bod miloedd o bunnoedd a diodydd wedi cael eu dwyn.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio i'r lladrad a ddigwyddodd yn ystod oriau mân y bore ar 26 Rhagfyr.
Dywedodd y llu ddydd Gwener bod dau berson wedi cael eu harestio mewn cysylltiad gyda'r digwyddiad.
"Mae dyn 54 oed wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth ac mae menyw 33 oed yn parhau yn y ddalfa," meddai'r heddlu.
Ychwanegodd y llu bod eu hymholiadau'n parhau.
