Beth yw’r newidiadau i etholiadau’r Senedd eleni?
Fe fydd etholiadau’r Senedd yn digwydd ar 7 Mai eleni – a mae yna newidiadau mawr i’r drefn.
Fe fydd y newidiadau rhain yn effeithio ar nifer yr aelodau o’r Senedd a hefyd sut mae pobl yn pledleisio.
Felly pa newidiadau allwn ni eu disgwyl eleni?
Pryd mae etholiad nesaf y Senedd?
Fe fydd yr etholiad yn cael ei chynnal ar ddydd Iau, 7 Mai eleni.
Fel yn 2021, fe fydd y pleidleisiau yn cael eu cyfri a’u cyhoeddi y diwrnod wedyn.
O hyn ymlaen, bydd etholiadau'r Senedd bob pedair blynedd yn lle pump.
Faint o Aelodau'r Senedd sydd yna?
Bydd nifer aelodau'r Senedd yn cynyddu o 60 i 96 adeg yr etholiad nesaf.
Mae 60 o wleidyddion wedi bod yn y Senedd ers datganoli yn 1999.
Pleidleisiodd yr aelodau i’r Senedd i gynyddu y nifer i 96 gan ddadlau bod eu cyfrifoldebau wedi cynyddu hefyd wrth i’r Senedd gael y grym i greu cyfreithiau newydd yng Nghymru.
Roedd hefyd angen mwy o wleidyddion i graffu ar benderfyniadau a gweithredoedd Llywodraeth Cymru, medden nhw.
Mae gwrthwynebwyr wedi dweud nad oes modd cyfiawnhau'r cynnydd mewn costau.
Bydd 36 AS arall yn costio cymaint â £17.8 miliwn yn ychwanegol y flwyddyn, ar ben cyllideb bresennol y Senedd o £67 miliwn, yn ôl amcangyfrifon.
Sut mae etholaethau'n newid?
Mae’r cynnydd mewn gwleidyddion wedi arwain at ffordd newydd o’u hethol nhw.
Mae set newydd sbon o etholaethau wedi eu creu ar gyfer yr etholiad eleni.
Bydd Cymru'n cael ei rhannu'n 16 etholaeth, gan ddisodli'r 40 sydd yno nawr.
Bydd chwe Aelod o Senedd Cymru (AS) yn cael eu hethol ym mhob un o'r etholaethau newydd hyn, sy'n golygu y bydd gan bob pleidleisiwr yng Nghymru chwe AS yn eu cynrychioli.
Fe gafodd yr etholaethau newydd eu creu trwy gyfuno 32 o etholaeth seneddol yn y DU, a oedd yn newydd ar gyfer Etholiad Cyffredinol 2024, yn 16 etholaeth Senedd newydd.
Etholaethau y Senedd ar gyfer Etholiad 2026:
- Bangor Conwy Môn
- Clwyd
- Fflint Wrecsam
- Gwynedd Maldwyn
- Ceredigion Penfro
- Sir Gaerfyrddin
- Gŵyr Abertawe
- Brycheiniog Tawe Nedd
- Afan Ogwr Rhondda
- Pontypridd Cynon Merthyr
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
- Sir Fynwy Torfaen
- Casnewydd Islwyn
- Caerdydd Penarth
- Caerdydd Ffynnon Taf
- Pen-y-bont Bro Morgannwg
Fe allwch chi ddod o hyd i ba etholaeth ydych chi ynddi fan hyn.
Pwy sy’n cael pleidleisio?
Os ydych chi’n byw yng Nghymru a’n 16 oed neu'n hŷn ar 7 Mai 2026, gallwch bleidleisio yn etholiad y Senedd.
Yn gyntaf, mae angen i chi gofrestru i bleidleisio.
Unwaith y byddwch ar gofrestr etholiadol, byddwch yn cael cerdyn pleidleisio drwy'r post. Bydd hyn yn rhoi manylion i chi yn dweud ble mae eich gorsaf bleidleisio leol.
Os na fyddwch yn medru mynd i orsaf bleidleiso am ba bynnag rheswm, gallwch wneud cais i bleidleisio drwy'r post.
Beth yw’r system bleidleisio newydd?
Mae system bleidleisio newydd yn dod i rym ar gyfer etholiad y Senedd eleni.
O safbwynt pleidleisio, mae’n system syml.
Bydd gan bob pleidleisiwr cofrestredig un bleidlais i ddewis un blaid neu un ymgeisydd annibynnol.
Mae hyn yn wahanol i etholiadau Senedd y gorffennol lle’r oedd yna ddwy bleidlais (un i’r etholaeth ac un rhanbarthol).
Mae manylion sut mae’r ymgeiswyr yn cael eu dewis ar sail y pleidleisiau ychydig yn fwy cymhleth.
Yr enw am y system newydd yw ‘'system gynrychiolaeth gyfrannol ar sail rhestr gaeedig'.
Unwaith y bydd pleidleisiau pawb wedi’u cyfrif, caiff y chwe sedd mewn etholaeth eu dyrannu.
Er enghraifft, os yw Llafur yn ennill traean o’r bleidlais, Plaid Cymru yn cael traean a Reform yn cael traean, fe fyddai disgwyl cael 2 aelod Llafur, 2 Plaid Cymru a 2 o Reform yn cynrychioli yr etholaeth.
Yn ymarferol wrth gwrs mae pethau’n llawer mwy cymhleth na hynny.
Mae yna ardaloedd lle mae cefnogaeth y pleidiau gwahanol yn uwch a’n is a nifer o bleidiau eraill yng Nghymru gan gynnwys y Ceidwadwyr, Y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Werdd hefyd yn gobeithio ennill seddi dan y system newydd.
Ond y cyfan sydd angen i bleidleiswyr ei wneud yw bwrw un bleidlais dros y blaid neu unigolyn annibynnol y maen nhw am ei chefnogi.
Pwy sy’n cael sefyll?
Am y tro cyntaf, bydd rhaid i bob ymgeisydd fod wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru.
Yn flaenorol, nid oedd yn ofynnol iddyn nhw fod yn byw yng Nghymru.
