Newyddion S4C

Swyddog heddlu trawsryweddol yn helpu pobl ifanc â’u hunaniaeth

ITV Cymru 27/08/2021
PCSO Connor Freel

Mae swyddog heddlu trawsryweddol yn defnyddio ei brofiadau personol i gefnogi pobl ifanc sy'n cael trafferth â'u hunaniaeth rywiol neu rywioldeb.

Dywedodd Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu (PCSO) Connor Freel, sydd wedi’i leoli yn yr Wyddgrug ac wedi gweithio i’r heddlu ers chwe blynedd, ei fod yn gallu cydymdeimlo â rheini yn y gymuned.

Erbyn hyn, mae wedi dod yn swyddog cymorth i staff LHDT+ Heddlu Gogledd Cymru.

Dywedodd PCSO Freel fod ei gefndir yn "help aruthrol" gyda'i waith.

Image
ITV

"Yn aml rydw i’n mynd allan i ddigwyddiadau lle mae pobl ifanc wedi bod mewn trafferth gyda rai pethau.

"Trwy gymryd yr amser i eistedd i lawr gyda nhw a gofyn beth sy'n digwydd, mae'n ymddangos bod rhai ohonyn nhw'n cael trafferth â'u rhywioldeb neu hunaniaeth rywiol - sy'n cael ei adlewyrchu yn eu hymddygiad.

"Ar ôl i mi fynd i'r afael â'u pryderon, yn aml, maen nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus ynddo nhw eu hunain ac yn dechrau ymgysylltu a chefnogi'r heddlu."

Dywedodd PCSO Freel bod ei brofiad personol o ragfarn hefyd yn ei alluogi i gysylltu â'r rhai sy'n cael amser anodd.

"Rwyf wedi cael ychydig o achosion lle mae pobl wedi bod yn cael trafferth gyda hunaniaeth rywiol a’i rhywioldeb, ac mae wedi cael effaith ar naill ai eu hiechyd meddwl neu eu hymddygiad yn gyffredinol, ac maen nhw wedi dod i'n sylw.

"Ar ôl i ni adeiladu'r berthynas honno lle gallwn ddarparu cefnogaeth a hyd yn oed gael cefnogaeth iddynt gydag asiantaethau mwy priodol, chi’n gweld y newid hwnnw yn eu hymddygiad."

Image
ITV
Mae Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn cefnogi swyddogion heddlu ac yn rhannu rhai o'r un pwerau.

Dywedodd Sarsiant Emma Prevete, sy'n arwain tîm PCSO Freel, ei bod yn credu bod cael gwahanol safbwyntiau yn gryfder.

"Mae gan bobl eu gwahaniaethau eu hunain, ac mae hynny'n bwysig oherwydd mae angen i ni adlewyrchu ein cymunedau.

"O edrych ar y tîm plismona yn ne Sir y Fflint yn unig, mae gennym ni oedrannau, anabledd, rhyw a rhywioldeb gwahanol - sy’n adlewyrchiad cywir o'r cymunedau rydyn ni'n eu plismona."

Dywedodd PCSO Freel y bydd yn parhau i hyrwyddo amrywiaeth nes iddo ddod yn norm.

"Byddwn yn parhau i siarad am amrywiaeth nes ni fydd angen i ni siarad am y peth mwyaf.”

"Mae angen i ni newid syniadau pobl o beth yw normal a beth sy'n wahanol nes bod ni i gyd wedi integreiddio."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.