Cyn arweinydd y BNP o Bowys yn wynebu achos llys posib dros gyhoeddi cartŵn
Fe allai cyn arweinydd y BNP o Bowys wynebu achos llys wedi iddo gael ei gyhuddo o gyhoeddi cartŵn oedd wedi meithrin casineb hiliol, clywodd llys ddydd Llun.
Mae Nick Griffin, sy’n byw yn Y Trallwng, wedi ei gyhuddo o rannu cartŵn ar X - Twitter gynt - yn 2021 a oedd yn “fygythiol, yn ymosodol a’n sarhaus”.
Fe ymddangosodd yn Llys y Goron Southwark drwy gyswllt fideo ddydd Llun yn gwisgo crys streipïog a thei du.
Mae'r cyn-Aelod o Senedd Ewrop yn cael ei erlyn yn breifat gan yr Ymgyrch yn Erbyn Gwrth-semitiaeth (CAA).
Roedd y cartŵn y honnir iddo ei rannu yn dangos pry cop enfawr gyda Seren Dafydd ar ei ben, meddai'r CAA yn flaenorol.
Mae cyn-arweinydd y BNP yn wynebu dau gyhuddiad o ysgogi casineb hiliol.
Fe wnaeth ei dîm amddiffyn gais i ddiddymu'r cyhuddiadau yn ei erbyn.
Bydd y cais yn cael ei glywed yn Llys y Goron Southwark ar 13 Ebrill 2026.
Gorchmynnodd y Barnwr Christopher Hehir i Mr Griffin ddychwelyd i Lys y Goron Southwark ar y dyddiad hwnnw ar gyfer y gwrandawiad.
Gosodwyd dyddiad dros dro ar gyfer achos llys ar 11 Mai 2027.
Llun: Llun archif o Nick Griffin gan PA / Ian Nicholson.