Abertawe v Wrecsam: Gêm ddarbi Gymreig y Bencampwriaeth

Abertawe v Wrecsam

Fe fydd Abertawe yn wynebu Wrecsam nos Wener yng ngêm ddarbi Gymreig y Bencampwriaeth.

Dyma fydd y gêm gyntaf rhwng y ddau glwb yn y Bencampwriaeth mewn 22 o flynyddoedd.

Er mai Caerdydd ydy'r clwb y mae Abertawe wedi arfer ei wynebu yn y gynghrair, fe fydd y gêm hon yn cael ei gwylio gan filiynau ar draws y byd wrth i'r ddau dîm uchaf o Gymru yn y gynghrair bêl-droed drwy Brydain ar hyn o bryd fynd benben â'i gilydd.

Mae Wrecsam yn 15fed yn y tabl ar hyn o bryd, bum pwynt a phedwar safle yn uwch nag Abertawe, sydd yn y 19eg safle ar 23 pwynt.

Mae'r ddau dîm wedi wynebu ei gilydd ar 30 achlysur yng nghynghrair bêl-droed Lloegr.

Nid yw Abertawe wedi ennill yn y naw gêm ddiwethaf yn y gynghrair honnon yn erbyn Wrecsam, er fe wnaethon nhw guro Wrecsam yn 2005 a 2006 yn rowndiau terfynol Cwpan Premier Cymdeithas Bêl-droed Cymru.

Mae yna gryn drafod wedi bod ynglŷn ag os ydy'r gêm yn cael ei hystyried fel gêm ddarbi go iawn. 

Fe ddywedodd cyn chwaraewr canol cae Abertawe Andy Robinson fod y gêm "bendant yn ddarbi" er gwaetha'r pellter daearyddol rhwng y ddau glwb. 

Ond fe ddywedodd Liam Cullen, sydd yn chwarae i Abertawe ar hyn o bryd, nad yw'n siŵr am hyn. 

"Yn amlwg nid yw hon yn ddarbi fel yr un de Cymru," meddai.

"Dwi'n meddwl ei bod hi'n cael llawer o sylw o ran pwy ydy ein perchnogion ni, a phwy ydy perchnogion Wrecsam. 

"Yn amlwg, maen nhw wedi cael blynyddoedd diweddar anhygoel a dwi'n adnabod ambell i berson sydd o Gymru sy'n chwarae yno, felly mi fedrwch chi ddweud ei bod hi'n ddarbi Gymreig."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.