Cwpl o Gymru yn ennill £1m ar y loteri am yr ail waith
Mae cwpl o Gymru wedi ennill £1m ar y loteri am yr ail waith mewn saith mlynedd.
Dywedodd Richard Davies, 49, a Faye Stevenson-Davies, 43, ei fod yn profi bod “straeon hud a lledrith yn gallu dod yn wir”.
Yn ôl arbenigwyr yn Allwyn, y cwmni sy’n gyfrifol am y Loteri Genedlaethol, mae'r tebygolrwydd y bydd rhywun yn ennill y loteri ddwywaith yn un mewn 24 triliwn.
Fe enillodd y ddau, o Dalgarth ym Mhowys, eu hail fuddugoliaeth fawr yn y raffl Lotto ym mis Tachwedd.
Ond dywedon nhw nad oes unrhyw gynlluniau ganddyn nhw i roi’r gorau i’w swyddi yn y cyfnod cyn y Nadolig.
Dywedodd Mr Davies y bydd yn parhau i weithio saith diwrnod yr wythnos fel dosbarthydd parseli, tra y bydd Mrs Stevenson-Davies, gweithiwr iechyd meddwl, yn cynnig cefnogaeth i’w chleientiaid drwy gydol cyfnod y Nadolig.
Dywedodd Mrs Stevenson-Davies: “Roedden ni bob amser yn credu bod ennill yn bosibl, ac unwaith i ni gipio £1 miliwn a chwrdd â channoedd o enillwyr lwcus eraill, sylweddolon ni fod straeon hud a lledrith yn dod yn wir a bod enillwyr ym mhobman.
“Roedden ni’n gwybod bod y tebygolrwydd y byddai’n digwydd eto yn afresymol o fach, ond rydyn ni’n brawf, os ydych chi’n credu, bod unrhyw beth yn bosibl.”
‘Bach o lwc’
Yn dilyn y fuddugoliaeth gyntaf, rhoddodd Mrs Stevenson-Davies y gorau i weithio fel nyrs iechyd meddwl ac aeth yn ôl i'r brifysgol, gan gael ail radd mewn cwnsela ac ymarfer therapiwtig.
Mae ganddi ei phractis ei hun bellach, ac mae'n dweud nad oes ganddi unrhyw gynlluniau i "adael" ei chleientiaid ar ôl "ychydig bach o lwc".
Dywedodd Mr Davies, a oedd yn gweithio fel triniwr gwallt yn flaenorol, ei fod wedi dechrau ei swydd fel dosbarthydd parseli ddwy flynedd yn ôl ac ei fod yn ei "charu".
Mae'r ddau hefyd yn gwirfoddoli gyda sefydliadau sydd wedi derbyn cyllid gan y Loteri Genedlaethol, gan gynnwys Haircuts4Homeless yng Nghaerdydd.
Ychwanegodd Mr Davies: "Mae pawb yn dal i ofyn beth fyddwn ni'n ei wneud yn y dyfodol ac nid oes gennym ni unrhyw syniad ar hyn o bryd o ddifrif.
“Byddwn ni’n cymryd ein hamser ac yn mwynhau’r foment.”
Llun: Richard Davies a Faye Stevenson-Davies.