Cyflwyno ymchwilwyr sy'n arbenigo mewn troseddau rhyw i heddluoedd Cymru
Fe fydd ymchwilwyr sy'n arbenigo mewn troseddau treisio a rhyw yn cael eu cyflwyno i bob heddlu yng Nghymru a Lloegr erbyn 2029, yn ôl Llywodraeth y DU.
Fel rhan o’u strategaeth trais yn erbyn menywod a genethod, fe fydd timau yn cael eu sefydlu er mwyn cynnig gwell cefnogaeth i ddioddefwyr a cheisio mynd i afael â throseddwyr rhyw.
Mae’r Ysgrifennydd Cartref, Shabana Mahmood, hefyd wedi addo tynnu hawliau sydd yn gwarchod ffoaduriaid sydd yn cyflawni troseddau rhyw er mwyn sicrhau bod modd eu halltudio’n gyflymach.
Mae bwriad hefyd i ymestyn cynllun sy'n datgelu cyn euogfarnau troseddwyr ar gais bartneriaid newydd.
Fe fydd y newidiadau yn cael eu cyhoeddi yn lansiad y strategaeth newydd yr wythnos nesaf.
Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi ymrwymo i haneru trais yn erbyn menywod a genethod dros y 10 mlynedd nesaf, ond maen nhw wedi cael eu beirniadu am yr oedi wrth gyhoeddi’r cynllun.
'Unman i guddio'
Wrth gyhoeddi'r mesurau, dywedodd Ms Mahmood: "Mae’r llywodraeth wedi datgan bod trais yn erbyn menywod a merched yn argyfwng cenedlaethol.
"Am rhy hir, mae’r troseddau hyn wedi cael eu hystyried yn rhan arferol o fywyd.
"Nid yw hynny’n dderbyniol. Byddwn yn ei haneru o fewn degawd.
"Heddiw, rydym yn cyhoeddi ystod o fesurau i fynd i’r afael â throseddwyr, gan eu hatal ar unwaith.
"Ni fydd gan dreiswyr, troseddwyr rhyw, a phobl sy’n cam-drin unman i guddio."
O dan y strategaeth newydd, bydd gorchmynion amddiffyn rhag cam-drin domestig yn cael eu cyflwyno ar draws Cymru a Lloegr, gan roi mwy o bwerau i’r llysoedd i ddiogelu dioddefwyr.
Bydd y gorchmynion yn gallu cynnwys amodau i fynd i’r afael â stelcio, cam-drin economaidd ac ymddygiad gorfodol, gyda’r rhai sydd yn euog o droseddu yn wynebu hyd at bum mlynedd yn y carchar os byddant yn torri’r amodau.
Bydd bron i £2 filiwn hefyd yn cael ei fuddsoddi mewn swyddogion i dargedu trais yn erbyn menywod a merched ar-lein.