Bwriad i ailagor canolfan hamdden ym Môn yn rhannol dros y penwythnos
Mae Cyngor Môn wedi dweud eu bod yn bwriadu ailagor Canolfan Hamdden Caergybi "yn rhannol" dros y penwythnos wedi difrod i'r to.
Cafodd y ganolfan hamdden ei chau ar ôl i'r to gael ei chwythu i ffwrdd yn sgil gwyntoedd cryfion Storm Bram ar ddechrau'r wythnos.
Dywedodd Cyngor Môn fod y storm wedi achosi difrod i’r gorchudd a’r deunydd inswleiddio ar do’r ganolfan hamdden.
Ond maen nhw'n gobeithio y bydd gwaith atgyweirio ddydd Gwener yn galluogi i rannau o'r ganolfan ailagor dros y penwythnos.
"Rydym yn gobeithio’n fawr gallu ailagor Canolfan Hamdden Caergybi yn rhannol fore Sadwrn," meddai llefarydd.
"Bydd hyn yn cynnwys ail agor yr ystafell ffitrwydd a'r pwll nofio, gyda gwersi yn mynd ymlaen fel arfer.
"Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio y bydd hyn yn ddibynnol ar gontractwyr yn cwblhau’r gwaith angenrheidiol.
"Ac mae hynny'n dibynnu ar y tywydd, i sicrhau diogelwch pawb sy’n defnyddio’r cyfleusterau a’r staff."
