Môn: Dirwy o £20,000 i gwmni am adael gorsaf betrol mewn cyflwr peryglus
Mae cwmni o Loegr wedi derbyn dirwy o £20,000 ar ôl i waith trydanol adael gorsaf betrol ym Môn mewn cyflwr peryglus.
Fe wnaeth Llys Ynadon Caernarfon orchymyn Derby Firelec Ltd, sydd yn gwmni o Bolton, i dalu'r ddirwy yn ogystal â gordal dioddefwyr o £2,000.
Fe gafodd cyfarwyddwr y cwmni, Mahammadrafik Patel, 65, hefyd o Bolton, oedd yn gyfrifol am wneud y gwaith yn Garej Dyffryn, Fali, ei orchymyn i gyflawni 120 awr o wasanaeth cymunedol di-dâl a thalu £778.53 mewn costau a gordal dioddefwyr.
Nid oedd gan Mr Patel y cymwysterau priodol ar gyfer y gwaith.
'Trychinebus'
Clywodd y llys fod y safle yn anniogel ac fe rybuddiodd yr ynadon y gallai canlyniadau'r gweithredoedd "fod yn drychinebus".
Fe wnaeth Adran Safonau Masnach Ynys Môn ddwyn yr achos ac fe gyflwynodd Derby Firelec Ltd a Mr Patel ble dieuog ym mis Hydref 2025 mewn cysylltiad â nifer o gyhuddiadau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974.
Clywodd y llys fod Mr Patel wedi gwneud gwaith ar yr orsaf betrol ar 31 Ionawr 2024 a 12 Chwefror 2024 a'i fod wedi cyflwyno adroddiad Gosodiad Trydanol oedd yn dweud fod y gwaith trydanol ar y safle yn ddiogel.
Ond nid oedd hynny yn wir, ac roedd angen rhoi sylw ar unwaith i ddiffygion.
Pryderon
Fe dderbyniodd Adran Safonau Masnach Ynys Môn gopi o’r Adroddiad Gosodiad Trydanol ar 13 Chwefror 2024.
Cafodd amheuon eu codi am ba mor gymwys oedd y peiriannydd trydanol oedd wedi cwblhau'r adroddiad, a hynny am ei fod yn cynnwys nifer o wallau ac adrannau anghyflawn.
Daeth i'r amlwg nad oedd Mr Patel, oedd yn masnachu o dan yr enw Derby Firelec Ltd, wedi cael ei gymeradwyo o dan ei aelodaeth o Gymdeithas y Contractwyr Trydanol (ECA) i wneud unrhyw fath o waith trydanol mewn ardal beryglus o’r orsaf betrol.
'Achos difrifol iawn'
Fe wnaeth Mr Patel a Derby Firelec Ltd honni eu bod nhw wedi rhoi gwybod i berchnogion yr orsaf betrol fod ei gymhwysedd wedi dod i ben, ac nad oedd wedi derbyn canlyniadau ei brawf diwethaf eto.
Ni lwyddodd i basio'r prawf hwnnw.
Fe ddywedodd Mr Patel ei fod yn difaru ei weithredoedd a'i fod yn derbyn iddo wneud camgymeriad.
Dywedodd y Cynghorydd Nicola Roberts, deilydd portffolio Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Môn, "Roedd hwn yn achos difrifol iawn ac rydw i’n ddiolchgar i’n tîm Safonau Masnach am sicrhau fod Derby Firelec Ltd a Mr Patel wedi cael eu dwyn o flaen eu gwell.
"Rydw i’n gobeithio y bydd y ddirwy sylweddol hon yn anfon neges glir na fydd arferion gwaith sy’n is na’r safon ddisgwyliedig ac yn anniogel yn cael eu goddef.
"Hoffwn annog busnesau hefyd i sicrhau bob amser fod gweithwyr sy’n gwneud gwaith ar eu rhan yn meddu ar y cymwysterau a’r tystysgrifau angenrheidiol i wneud y gwaith."
Mae Mr Patel erbyn hyn wedi llwyddo yn y profion a bellach yn gymwys i wneud y math yma o waith.
