John Redwood ond dim Vaughan Gething ar restr o arglwyddi newydd

John edwood a Vaughan Gething

Mae cyn Ysgrifennydd Cymru, Syr John Redwood, wedi ei ychwanegu ar restr o arglwyddi newydd, ond nid yw cyn Brif Weinidog Cymru, Vaughan Gething, wedi ei gynnwys.

Mae Richard Walker, sydd yn gadeirydd gweithredol un o gwmnïoedd mwyaf Cymru - cwmni Iceland sydd â’i phencadlys yng Nglannau Dyfrdwy - hefyd ar y rhestr a gyhoeddwyd gan 10 Stryd Downing.

Roedd papur newydd y Times wedi adrodd bod Vaughan Gething, a oedd wedi ymddiswyddo o fod yn Brif Weinidog Cymru wedi pedwar mis y llynedd, dan ystyriaeth am sedd yn Nhŷ’r Arglwyddi.

Nid yw ei enw ar y rhestr o 25 enwebai o’r Blaid Lafur, pump o blaid y Democratiaid Rhyddfrydol, a thri o’r Blaid Geidwadol, a gyhoeddwyd nos Fercher. Mae un arglwydd annibynnol wedi ei gyhoeddi yn ogystal.

Nid oes modd gwasanaethu yn Nhŷ’r Arglwyddi a bod yn aelod o Senedd Cymru'r un pryd, a bydd Vaughan Gething yn camu o’r neilltu o’i sedd fel AS yn etholiad mis Mai.

Fe awgrymodd ffynhonnell o’r Blaid Lafur y bydd penodiadau pellach gan y blaid i’r Arglwyddi drwy gydol y Senedd bresennol.

 “Llenwodd y Torïaid Dŷ’r Arglwyddi, gan greu anghydbwysedd difrifol sydd wedi caniatáu iddynt rwystro ein cynlluniau i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio,” meddai.

“Mae angen cywiro hyn er mwyn gallu cyflawni'r hyn y mae pobl Prydain am i ni ei gyflawni.

“Byddwn yn parhau i ddatblygu ein rhaglen i ddiwygio Tŷ’r Arglwyddi, sy’n cynnwys dileu hawl arglwyddi sydd wedi etifeddu eu safle i eistedd a phleidleisio yn yr Arglwyddi.”

Mae arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch, wedi enwebu’r cyn-nofwraig Olympaidd Sharron Davies, sydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn llafar dros hawliau menywod yn y ddadl dros hawliau trawsryweddol.

Yn ogystal â Syr John Redwood, cyn Ysgrifennydd Cymru, mae hefyd wedi enwebu'r newyddiadurwr a’r hanesydd Simon Heffer.

Y Ceidwadwyr yw'r grŵp mwyaf yn Nhŷ'r Arglwyddi o hyd, gyda 282 o arglwyddi o'i gymharu â 234 gan y Blaid Lafur.

Mae 177 o arglwyddi annibynnol a 75 o'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.