Car James Bond a gafodd ei brynu gan Gymro bellach werth £1 miliwn

John Williams / Aston Martin

Mae car Aston Martin fel yr un oedd James Bond yn ei yrru, a gafodd ei brynu gan Gymro am lai na £1,000 yn y 1970au bellach wedi cael ei brisio am £1,000,000 yn dilyn gwaith i atgyweirio'r car. 

Fe wnaeth y Cymro John Williams, sydd yn weldiwr a pherchennog garej, gynilo'n galed i brynu car ei freuddwydion am £900 yn unig ym 1973 yn 19 oed.

Wedi iddo ei ddefnyddio yn rheolaidd am bedair blynedd, fe roddodd y gorau i'w ddefnyddio yn 1977 pan y cafodd swydd yn y Dwyrain Canol. 

Mae'r Aston Martin DB5 ymysg y math fwyaf adnabyddus yn hanes y cwmni, yn bennaf gan ei fod wedi ymddangos mewn nifer o ffilmiau James Bond, yn cynnwys Goldfinger, Thunderball, Goldeneye a Skyfall. 

Fe gafodd car Mr Williams ei baentio mewn arian, sef yr un lliw â'r rhai sy'n cael eu defnyddio gan 007. 

Dywedodd Mr Williams ei fod "ychydig yn siomedig ei fod wedi gadael i'r car fynd i'r fath olwg" ac ei fod wedi dod yn "freuddwyd iddo ei adfer". 

Fe aeth â'r car i Aston Martin Works yn Sir Buckingham ddiwedd 2022 iddo gael ei atgyweirio yn llawn dros gyfnod o dair blynedd. 

"Mae hi wedi bod yn amser hir... amser hir o arbed arian, ond mae wedi bod werth bob ceiniog," meddai.

"Mae'n anhygoel.

"Mae hi siwr o fod bron i 50 mlynedd ers i mi yrru'r car, ond mae'r profiad yn arbennig."

Dywedodd Llywydd Aston Martin Works, Paul Spires: "Er fod y car mewn cyflwr gwael iawn pan gyrhaeddodd, rydym ni wastad yn barod am her ac roeddwn i'n gwybod fod y sgiliau gennym ni, yr ymrwymiad a'r arbenigedd i ddychwelyd y car i'r cyflwr gorau posib."

Dim ond 1,022 o'r ceir gafodd eu cynhyrchu, a hynny rhwng 1963 a 1965.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.