Pryder y bydd 'miloedd' o gefndiroedd difreintiedig yn colli'r cyfle i deithio dramor
Pryder y bydd 'miloedd' o gefndiroedd difreintiedig yn colli'r cyfle i deithio dramor
Mae yna bryder y gall “miloedd” o bobl o gefndiroedd difreintiedig golli cyfleoedd pan fydd cynllun Taith Llywodraeth Cymru yn dod i ben.
Cafodd Taith ei sefydlu yn 2022 i ariannu cyfleoedd i bobl mewn addysg yng Nghymru i fynd dramor, wedi i Lywodraeth y DU dynnu nôl o gynllun Erasmus+ yr Undeb Ewropeaidd yn 2021.
Ar hyn o bryd, does dim bwriad gan Lywodraeth Cymru i ariannu cynllun Taith ar ôl 2028.
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae nhw'n awyddus i sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael cyfleoedd rhyngwladol.
Nod cynllun Taith yw i roi cyfleoedd i unigolion a sefydliadau sydd ddim yn draddodiadol wedi cael cyfleoedd i fynd dramor neu sydd wedi cael trafferth dod o hyd i gyllid.
Mae y rhain yn cynnwys pobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol, pobl ag anghenion dysgu ychwanegol a phobl o gefndiroedd difreintiedig.
Mae’r cynllun wedi cael ei ymestyn tan 2028, ond bydd prif waith y cynllun yn dod i ben yn Awst 2027.
Mae Llywodraeth Prydain wedi datgan ei ymrwymiad i ail-ymuno â Erasmus+, ond mae pryderon na fydd pobl o gefndiroedd difreintiedig yn medru cael mynediad i’r cyllid hwnnw mor hawdd â thrwy gynllun Taith.
‘Newid perspectif’
Mae Zack, 23 oed, wedi bod yn derbyn cefnogaeth gan elusen GISDA ers iddo fod yn 16 oed. Mae'n elusen sy’n cefnogi pobl ifanc digartref a/neu fregus yng Ngwynedd.
Yn 2023, aeth ar drip i’r Ffindir oedd wedi’i ariannu gan gynllun Taith.
Mae’r profiad o fynd i wlad dramor wedi cael cryn dipyn o effaith arno, meddai: “Oedd yn eye-opening fod yn rhywle gwahanol... Mae di neud i fi sylwi y bigger picture o bywyd, cal perspectif newydd.
“Nes i actually gallu gwella am y tro cynta efo rhywbeth on i’n strugglo efo yn bersonol ac oedd hynny’n eye-opening - i ddysgu bo dwi efo’r gallu i wella hefyd”, ychwanegodd.
Mae Reece, 22 oed, wedi bod gyda GISDA ers wyth mlynedd, ac wedi bod ar sawl trip wedi’i ariannu gan Taith, gan gynnwys i Lundain, Efrog Newydd ac i’r Ffindir hefyd.
“Ma’r bobl dwi cyfarfod even though dwi ddim yn siarad efo nhw’n aml ma nhw wedi newid perspectif fi o bywyd”, meddai.
Byddai colli cynllun fel Taith yn “rili rili brifo lot o bobl ifanc”, meddai.
Yn ôl Lyndsey Thomas, Pennaeth Datblygu elusen GISDA, mae cynllun Taith yn rhoi “cyllid ychwanegol i bobl ifanc sy’n stryglo, pobl ifanc difreintiedig i allu cael peth fel passports a bagiau so s'dim byd yn stopio nhw fynd tramor.”
Yn ei barn hi, doedd cynllun Erasmus ddim yn cynnig “gymaint o gefnogaeth” i bobl ifanc o gefndiroedd llai breintiedig.
“Da ni yn gobeithio’n wir y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu ffeindio ffordd i neud o [cynllun Taith] barhau. Ma’r effaith just yn anhygoel. Mae’n newid bywydau a dwi ddim yn meddwl bod pobl yn sylweddoli hynny”, meddai.
‘Miloedd’ yn colli cyfle
Yn ôl Walter Brooks, Rheolwr Rhaglen Addysg Uwch ac Addysg Bellach Taith, mae’r cynllun yn wahanol i Erasmus achos ei fod yn “ffocysu’n benodol ar fynediad”.
“Da ni’n trio rhoi mwy o gymorth a gwneud pethe’n haws i bawb allu cymryd rhan. Ma’ sectorau wedi dweud wrthon ni’n barod - os da ni’n mynd nôl i Erasmus bydd pethau’n fwy anodd, falle’n amhosib iddyn nhw allu cyrraedd y math yma o gyfleoedd”, esboniodd.
“Os yw Taith yn diflannu, y perygl yw bydd sefydliadau ddim yn ymgeisio am Erasmus, ac felly fe all miloedd o gyfranogwyr posib - yn enwedig rheiny o sefydliadau llai – golli allan ar gyfleoedd fel hyn yn y dyfodol”, meddai Susana Galván, Cyfarwyddwr Gweithredol Taith.
Mewn datganiad, fe ddywedodd Llywodraeth Cymru: “Rydyn ni wedi cadarnhau bod rhaglen Taith i gael ei hestyn tan 2028. Rydyn ni am ganolbwyntio ar ddarparu rhaglen bresennol Taith, a sicrhau bod dysgwyr yn parhau i gael y cyfleoedd rhyngwladol y maen nhw’n eu haeddu.
“Rydyn ni’n cydnabod y bydd natur rhaglen Taith i’r dyfodol yn cael ei llywio gan ganlyniad trafodaethau’r DU i ailymuno ag Erasmus+. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau parhad y cyfleoedd i ddysgwyr, ac fe fyddwn ni’n ystyried yn ofalus y goblygiadau unwaith y daw’r trafodaethau ynghylch ailymuno ag Erasmus+ i ben.
Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.
