Afghanistan: G7 wedi cytuno ar 'gynllun' i ddelio gyda’r Taliban

Mae grŵp cenhedloedd yr G7 wedi cytuno ar “gynllun” ar gyfer ymgysylltu â’r Taliban.
Yn ôl Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, Boris Johnson, byddant yn mynnu bod “taith ddiogel” i bobl sydd eisiau gadael Afghanistan y tu hwnt i 31 Awst.
Wrth siarad ar ôl uwchgynhadledd rithiol y G7, dywedodd y Mr Johnson: "Y prif amod rydym ni'n ei osod fel G7 yw bod yn rhaid i’r Taliban adael ffordd drwodd diogel i’r rhai sydd eisiau gadael Afghanistan, hyd at 31 Awst a thu hwnt.
"Bydd rhai yn dweud nad ydyn nhw'n derbyn hynny a bydd rhai yn gweld synnwyr gobeithio, oherwydd mae gan y G7 drosoledd sylweddol iawn yn economaidd, diplomyddol a gwleidyddol."
Roedd disgwyl i Mr Johnson geisio darbwyllo Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden i ymestyn y dyddiad lle bwriedir i holl filwyr yr UDA adael y wlad, sef 31 Awst.
Ond yn ôl Sky News mae Joe Biden wedi penderfynu peidio ag ymestyn y dyddiad cau.
Dywedodd Boris Johnson fod y DU wedi llwyddo i wagio 9,000 o bobl hyd yn hyn ac "rydym yn hyderus y gallwn ni gael miloedd yn fwy allan".
Darllenwch y stori yn llawn yma.