Rhybudd oren ‘perygl i fywyd’ mewn grym i rannau o Gymru

Rhybudd tywydd

Mae rhybudd oren am dywydd "allai beryglu bywyd" mewn grym ar draws nifer fawr o ardaloedd yng Nghymru ddydd Llun.

Mae’r Swyddfa Dywydd eisoes wedi rhagweld y gallai gwerth bron i fis o law syrthio mewn cyfnod o 24 awr, gyda rhagolygon yn darogan y gall 100-120mm syrthio mewn rhai mannau.

Mae'r rhybudd mewn lle ar gyfer ardaloedd yn ne a chanolbarth Cymru, ac yn ymestyn drwy gydol dydd Llun gyda “llifogydd cyflym neu ddwfn yn bosibl, a allai achosi perygl i fywyd".

Tirlithriadau posib

Mae llefarydd ar ran Arolwg Daearegol Prydain hefyd wedi rhybuddio bod eu cofnodion yn awgrymu y gallai glaw o’r fath arwain at dirlithriadau.

Mae rhybudd melyn am law hefyd ar draws Cymru gyfan heblaw am Sir y Fflint, wedi bod mewn lle ers oriau mân y bore, ac yn parhau i fod mewn lle hyd nes 03.00 ddydd Mawrth.

Image
llifogydd
Map rhybuddion 'llifogydd - byddwch yn barod' fore dydd Llun (CNC)

Gallai dydd Llun nodi "ddigwyddiad arwyddocaol" oherwydd bod y tir eisoes yn wlyb iawn, meddai'r Swyddfa Dywydd.

Hyd yn hyn, mae Cymru eisoes wedi gweld tua 240mm o law ym mis Tachwedd, o’i gymharu â’r cyfartaledd o 162mm, yn ôl un o'i meteorolegwyr.

Dywedodd uwch feteorolegydd gweithredol y Swyddfa Dywydd, Marco Petagna: “Mae pob ardal wedi gweld mwy o law na’r arfer, ac mae llawer o ardaloedd yng Nghymru a Lloegr eisoes wedi gweld glaw ymhell uwchlaw'r arfer ac mae rhagor i ddod.”

Dywedodd llefarydd ar ran Arolwg Daearegol Prydain: “Mae cofnodion yn dangos bod glaw tebyg i’r hyn sy’n cael ei ragweld ar gyfer dydd Llun wedi achosi tirlithriadau yng Nghymru yn y gorffennol.

“Gallai llethrau naturiol a seilwaith gael eu heffeithio, gyda glaw yn disgyn ar lethrau sy’n debygol o fod eisoes yn wlyb iawn.”

Dywedodd Richard Preece, Rheolwr Tactegol Cyfoeth Naturiol Cymru bod disgwyl i'r glaw gael "effeithiau sylweddol ar draws Cymru". 

"Gyda’r afonydd eisoes wedi chwyddo a’r tir wedi’i orlenwi, rydym yn disgwyl gweld nifer o rybuddion a rhybuddion llifogydd yn cael eu cyhoeddi, gyda rhybuddion llifogydd yn nodi bod disgwyl llifogydd," meddai.

Mae’r rhybudd tywydd oren yn berthnasol i’r siroedd canlynol:

  • Blaenau Gwent
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Caerffili
  • Caerdydd
  • Sir Gaerfyrddin
  • Ceredigion
  • Merthyr Tudful
  • Sir Fynwy
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Casnewydd
  • Sir Benfro
  • Powys
  • Rhondda Cynon Taf
  • Abertawe
  • Torfaen
  • Bro Morgannwg

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.