Ioan Gruffudd yn cyhoeddi genedigaeth merch fach mis yn gynnar

Ioan Gruffudd a'i wraig

Mae’r seren Hollywood o Gymru, Ioan Gruffudd, wedi cyhoeddi genedigaeth ei blentyn cyntaf gyda’i wraig, Bianca Wallace, gyda’r babi yn cyrraedd mis yn gynnar.

Priododd yr actor o Aberdâr, sy’n 52 oed, yr actores ym mis Ebrill 2025.

Mewn post Instagram, dywedodd y cwpl fod eu merch, Mila Mae Gruffudd, wedi’i geni fis yn gynnar ar 2 Tachwedd.

Rhannodd hefyd lun o lwy garu Gymreig gyda’r neges ‘Babi Newydd’ arno yn Gymraeg.

Dywedon nhw: “Roedd mis Tachwedd yn fis mawr… Dad a Mam: mewn cariad llwyr â’n hangel ni.

“Rydyn ni’n ddiolchgar iawn am hyn ar Ddiwrnod Diolchgarwch (Thanksgiving).”

Cadarnhaodd yr actor ei fod yn canlyn gyda Wallace yn 2021 pan rannodd lun ohonynt yn eistedd gyda’i gilydd gan ysgrifennu: “Diolch am wneud i mi wenu eto.”

Mae’r ddau yn serennu yn y ddrama A Ray Of Sunshine, am fenyw yn dod i delerau â’i diagnosis o sglerosis ymledol, cyflwr gydol oes y cafodd Wallace ddiagnosis ohono yn 25 oed.

Ym mis Mawrth 2021, fe wnaeth Ioan Gruffudd ysgaru â'r actores Alice Evans.

Roedd perthynas y cwpl wedi cyrraedd y penawdau ym mis Ionawr y flwyddyn honno ar ôl i Evans drydar - ac yna dileu - neges yn dweud bod Gruffudd wedi ei gadael hi.

Fe wnaeth Gruffudd ac Evans gyfarfod ar set y ffilm 102 Dalmatians yn 2000 ac roeddent wedi bod yn briod ers 2007.

Mae’r actor yn fwyaf adnabyddus am ymddangos mewn ffilmiau gan gynnwys Fantastic Four (2005), Black Hawk Down (2001), Titanic (1997), Horrible Bosses (2011) a San Andreas (2015).

Dechreuodd ei yrfa yn chwarae rhan Gareth Wyn Harris yng nghyfres Pobol y Cwm ym 1994.

Llun: Instagram Ioan Gruffudd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.