'Gwerthfawrogi': Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein yn canmol ymddygiad aelodau'r Wal Goch

2025-11-15 Liechtenstein v Cymru-14.jpg

Mae Cymdeithas Bêl-droed Liechtenstein wedi canmol ymddygiad cefnogwyr pêl-droed Cymru ar ôl gêm ddiweddar rhwng y ddwy wlad.

Roedd 3,000 o gefnogwyr Cymru yn y Rheinpark Stadion yn Vaduz yn gynharach fis yma wrth i dîm Craig Bellamy hawlio buddugoliaeth 1-0 dros y tîm cartref.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol ddydd Iau, fe ddywedodd Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-droed Cymru (CPDC) Noel Mooney ei fod wedi derbyn “neges hyfryd” ar ran y gymdeithas yn Liechtenstein.

Dywedodd Mr Mooney ar X: “Rydym wedi derbyn neges hyfryd gan Gymdeithas Bêl-droed Liechtenstein ar ôl ein hymweliad diweddar yno.

“’Hoffwn fynegi ein wir werthfawrogiad i’r cefnogwyr Cymreig.

"Rydym wedi derbyn llawer o adroddiadau positif yn ymwneud ag ymddygiad y cefnogwyr, gan ddarparwyr trafnidiaeth gyhoeddus ac awdurdodau fel yr heddlu. 

"I ni roedd yn wŷl o bêl-droed.’

Fe ychwanegodd Mr Mooney: “Diolch yn fawr i bawb yn y Wal Goch, ein llysgenhadon gorau.”

Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.