Lost Boys and Fairies yn ennill gwobr Emmy Ryngwladol
Mae’r gyfres ddrama Lost Boys and Fairies wedi ennill gwobr Emmy Ryngwladol.
Fe gafodd enillwyr y gwobrau Emmy Rhyngwladol eu cyhoeddi mewn seremoni yn Efrog Newydd nos Lun.
Mae’r ddrama BBC Cymru, a gafodd ei darlledu yn 2024, yn adrodd hanes cwpwl hoyw o Gaerdydd sydd yn ceisio mabwysiadu plentyn.
Roedd y gyfres, sydd wedi ei lleoli yng Nghaerdydd, wedi ei henwebu yn y categori am y gyfres fer neu ffilm orau.
Yr enwebiadau eraill oedd Amar Singh Chamkila o India, Herrhausen: The Banker and the Bomb o’r Almaen a Victory or Death o Chile.
Cafodd y gyfres ei hysgrifennu gan Daf James ar ran cwmni cynhyrchu Duck Soup Films.
Mae Lost Boys and Fairies eisoes wedi ennill pum gwobr yng Ngwobrau Ffilm a Theledu Bafta Cymru eleni.