Abertawe: Llyncdwll yn ymddangos ar ffordd yn y ddinas
Mae Cyngor Dinas Abertawe'n ymchwilio wedi i lyncdwll ymddangos yng nghanol ffordd yn y ddinas.
Mae timau priffyrdd y cyngor wedi dechrau'r gwaith o ymchwilio i achos y twll sydd wedi ymddangos ar Ffordd Brynymor wrth gyffordd Stryd Westbury.
Bydd y gwaith o adfer y ffordd yn dechrau pan fydd yr ymchwiliad wedi sefydlu achos y twll meddai llefarydd.
Yn y cyfamser, mae Ffordd Brynymor yn parhau ar gau i draffig rhwng Stryd Westbury a Chilgant Eaton.
Mae Stryd Westbury yn parhau ar agor ond nid oes mynediad i Ffordd Brynymor.
Mae Ffordd Brynymor rhwng Ffordd Santes Helen a Ffordd y Brenin Edward yn parhau ar agor i draffig.