Dedfryd o garchar wedi ei ohirio i ddyn o Wrecsam a yrrodd car at heddwas
Mae dyn o Wrecsam wedi derbyn dedfryd o garchar wedi ei ohirio ar ôl iddo yrru ei gar yn syth at heddwas.
Plediodd Clive Thomas o Benycae, Wrecsam yn euog yn Llys Ynadon y ddinas i ymosod ar weithiwr argyfwng, gyrru cerbyd yn beryglus, a gyrru cerbyd heb drwydded na chwaith yswiriant.
Ar 25 Ebrill yn ardal Ffordd Cefn, Wrecsam roedd wedi defnyddio ei gerbyd fel arf a gyrru'n uniongyrchol at swyddog heddlu a cherbyd heddlu.
Fe wnaeth o wrthdaro â drws y teithiwr ac fe fethodd swyddog heddlu o drwch blewyn, cyn dianc ar gyflymder.
Dywedodd Uned Wledig Heddlu Wrecsam y gallai swyddogion yr heddlu fod “wedi cael eu hanafu'n ddifrifol oherwydd ei weithredoedd llwfr”.
“Roedd Clive nid yn unig wedi dangos dirmyg amlwg i aelodau'r cyhoedd a oedd yn defnyddio priffyrdd cyhoeddus ond hefyd tuag at y swyddogion heddlu a oedd yno i’w atal rhag cyflawni mwy o droseddau,” medden nhw.
Fe gafodd ei ddedfrydu i 12 mis yn y carchar wedi ei ohirio am 24 mis, talu £272 o gostau i’r llys, gorfod cymryd rhan mewn cwrs 26 diwrnod, a 120 awr o waith di-dâl dros gyfnod o 12 mis.
Fe gafodd ei ddiarddel rhag gyrru am 12 mis.
