Y Ffair Aeaf: Undebau yn dadlau nad yw'n 'rhy hwyr i atal difrod treth ffermydd teuluol’
Mae undebau ffermio wedi dweud eu bod nhw'n bwriadu defnyddio'r Ffair Aeaf, sydd wedi dechrau ddydd Llun, i bwysleisio’r "pryder cynyddol" ynglŷn â'r diwygiadau arfaethedig i'r dreth etifeddiaeth.
O fis Ebrill 2026, bydd yn rhaid talu treth ar raddfa o 20% ar dir ac asedau amaethyddol sy'n werth dros £1 miliwn.
Gyda dim ond dyddiau cyn Cyllideb yr Hydref, mae NFU Cymru yn bryderus y bydd y diwygiadau yn niweidio ffermydd teuluol yng Nghymru a ledled y DU.
Dywedodd yr undeb y bydd yn pwysleisio "canlyniadau difrifol" y dreth i fusnesau amaethyddol, gan gynnwys tystiolaethau personol gan deuluoedd amaethyddol ledled Cymru.
Mae disgwyl i neges ar y cyd gan y rhai sydd yn mynd i'r ffair, gael ei chyflwyno i Lywodraeth y DU ddydd Mawrth, ddiwrnod cyn cyhoeddiad Cyllideb y canghellor Rachel Reeves.
Mae llywydd NFU Cymru, Aled Jones, yn annog Llywodraeth y DU i oedi'r newidiadau arfaethedig i gyflwyno'r dreth ar dir a busnesau amaethyddol. Dywedodd Mr Jones nad oedd hi "yn rhy hwyr i atal difrod treth ffermydd teuluol".
Ychwanegodd: "Mae corff cynyddol o dystiolaeth yn cadarnhau ein safbwynt y bydd y newidiadau a gyhoeddwyd yng Nghyllideb yr Hydref diwethaf yn arwydd o drychineb i ffermydd teuluol."
Dywedodd Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, Ian Rickman, yr wythnos diwethaf ei fod wedi ysgrifennu at bob Aelod Seneddol ledled y DU i dynnu sylw at "bryderon difrifol" yr undeb ynghylch newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i dreth etifeddiaeth.
“Mae’n anarferol iawn i Lywydd Undeb Amaethwyr Cymru ymgysylltu’n uniongyrchol â chynrychiolwyr etholedig o bob cenedl yn y DU - ac efallai’n ddigynsail i ysgrifennu at bob AS," meddai.
"Fodd bynnag, rydym yn teimlo bod rhaid gweithredu, gan ein bod yn credu’n gryf bod newidiadau arfaethedig Llywodraeth y DU i'r dreth etifeddiant yn peri bygythiad dirfodol i ffermydd teuluol yng Nghymru ac i’r gymuned wledig ehangach."
Wrth ymateb i bryderon am effaith y dreth etifeddiaeth ar ffermwyr, dywedodd gweinidog materion gwledig San Steffan, Angela Eagle ddydd Gwener bod Llywodraeth y DU yn “cefnogi ffermwyr Prydain i greu dyfodol proffidiol a chynaliadwy i ffermio, ochr yn ochr â buddsoddiad mawr mewn arloesedd a thechnoleg i wella cynhyrchiant a gwydnwch”.
“Rydym hefyd yn gweithio ar draws y gadwyn gyflenwi bwyd i helpu i sicrhau bod ffermwyr yn cael enillion teg am y bwyd o ansawdd uchel y maent yn ei gynhyrchu,” meddai.
Mae’r Ffair Aeaf yn cael ei hystyried fel un o’r sioeau stoc gorau yn Ewrop ac yn cynnwys cystadlaethau amaethyddol a stondinau masnachwyr dros ddeuddydd.
Cafodd y Ffair Aeaf ei hagor yn swyddogol eleni gan Ieuan Edwards a'i fab, Sion, sef cigyddion Edwards o Gonwy.
Mae S4C yn darlledu’n fyw o’r Sioe Aeaf gyda rhaglen uchafbwyntiau bob nos.
Llun: Y Ffair Aeaf