Cyn-ddylunydd personol y Dywysoges Diana, Paul Costelloe, wedi marw yn 80 oed
Mae cyn-ddylunydd personol y Dywysoges Diana, Paul Costelloe, wedi marw yn 80 oed.
Dywedodd ei label ffasiwn i'r dylunydd o Iwerddon farw yn Llundain wedi'i amgylchynu gan ei deulu.
"Rydym yn drist iawn i gyhoeddi marwolaeth Paul Costelloe yn dilyn salwch byr," meddai'r datganiad.
"Roedd wedi’i amgylchynu gan ei wraig a’i saith o blant a bu farw’n dawel yn Llundain.
"Rydym yn gofyn yn garedig i chi barchu preifatrwydd y teulu yn ystod yr amser yma."
Cafodd Costelloe ei eni yn Nulyn yn 1945.
Dechreuodd ei yrfa yn y Chambre Syndicale de la Haute Couture ym Mharis, cyn dod yn gynorthwyydd dylunio i'r dylunydd Jacques Esterel.
Yn ddiweddarach symudodd Costelloe i Milan i gefnogi Marks & Spencer yn eu hymgais i fynd i mewn i'r farchnad Eidalaidd.
Ni lwyddodd i symud Marks & Spencer i'r Eidal, ond arhosodd ym Milan fel dylunydd ar gyfer y siop adrannol foethus La Rinascente, cyn symud i'r Unol Daleithiau, lle cafodd ei benodi'n ddylunydd i Anne Fogarty yn Efrog Newydd.
Yn dilyn hynny sefydlodd ei label ei hun, Paul Costelloe Collections.
Yn 1983, cafodd ei benodi'n ddylunydd personol i Diana, Tywysoges Cymru, a pharhaodd i gydweithio â hi hyd at ei marwolaeth yn 1997.
Mae ei label yn parhau hyd heddiw yn gwerthu casgliadau gan gynnwys dillad menywod, dillad dynion, bagiau ac ategolion.
Parhaodd i arwain y tîm dylunio ar gyfer ei gwmni hyd at ei farwolaeth.