Cyhoeddwr y Daily Mail yn cytuno i brynu’r Telegraph am £500m

The Telegraph

Mae cyhoeddwr y Daily Mail wedi cytuno ar gytundeb gwerth £500 miliwn i brynu'r Telegraph Media Group.

Cytunodd y Daily Mail a'r General Trust (DMGT) i brynu'r Telegraph gan RedBird IMI ar ôl i ymgais i brynu gan y cwmni buddsoddi a gefnogir gan Abu Dhabi gael ei rhwystro gan y llywodraeth Dorïaidd ar y pryd.

Mae DMGT a RedBird IMI bellach wedi dechrau cwblhau'r cytundeb a pharatoi cyflwyniadau rheoleiddio, y maen nhw’n disgwyl i "ddigwydd yn gyflym".

Dywedodd DMGT y byddai hyn yn rhoi "sicrwydd a hyder sydd eu hangen yn fawr" i weithwyr y Telegraph.

Byddai'r pryniant yn gweld y Telegraph yn dod yn rhan o bortffolio DMGT, sydd yn cynnwys Metro, The i Paper a New Scientist.

Dywedodd y grŵp y bydd yn "buddsoddi'n sylweddol" yn y Telegraph, gan gyflymu ei ehangu rhyngwladol gyda ffocws penodol ar yr Unol Daleithiau.

Fe fydd y Telegraph yn parhau i fod yn annibynnol yn olygyddol ar deitlau eraill meddai DMGT.

Dywedodd llefarydd ar ran RedBird IMI: "Mae DMGT a RedBird IMI wedi gweithio’n gyflym i gyrraedd y cytundeb a gyhoeddwyd heddiw, a fydd yn cael ei gyflwyno i’r Ysgrifennydd Gwladol yn fuan."

Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon: "Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn nodi’r cyhoeddiad am fargen newydd arfaethedig. 

"Bydd hi’n adolygu unrhyw brynwr newydd sy’n caffael y Telegraph yn unol â’r budd cyhoeddus a’r cyfundrefnau uno cyfryngau dylanwad gwladwriaethau tramor a nodir mewn deddfwriaeth."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.