Y seren roc Neil Young i berfformio yng Nghaerdydd am y tro cyntaf
Bydd y seren roc Neil Young yn cynnal sioe yng Nghaerdydd am y tro cyntaf yr haf nesaf gyda'i fand The Chrome Hearts.
Mae disgwyl iddo berfformio yng Nghaeau y Gored Ddu yn y brifddinas ar 5 Gorffennaf fel rhan o'i daith Love Earth o amgylch y DU ac Ewrop.
Yn ymuno â Neil Young a The Chrome Hearts fel gwesteion arbennig fydd Elvis Costello a The Imposters gyda Charlie Sexton.
Ar wahân i ymddangosiadau mewn gwyliau, gan gynnwys Gŵyl Glastonbury eleni, nid yw Neil Young wedi bod ar daith yn y DU ers bron i ddegawd.
Dechreuodd ei daith Love Earth yn Sweden eleni ac hyd yma mae wedi chwarae mwy nag 20 o weithiau ar draws yr Unol Daleithiau ac Ewrop.
Bydd Caeau y Gored Ddu yn croesawu sawl cerddor enwog ar ddechrau mis Gorffennaf 2026, gan gynnwys y canwr Americanaidd Teddy Swims, y rapiwr Pitbull a'r seren bop o'r Alban, Lewis Capaldi.
Bydd tocynnau yn cael eu gwerthu am 09.00 ddydd Gwener nesaf.