Rhaid i Gymru ddangos 'agwedd' i guro Gwlad Belg

Mae’n rhaid i Gymru ddangos “agwedd” i guro Gwlad Belg.
Dyna farn cyn-reolwr y tîm pêl-droed cenedlaethol, Chris Coleman, cyn i Gymru ddechrau eu hymgyrch cymhwyso Cwpan y Byd drwy herio Gwlad Belg oddi cartref ddydd Mercher.
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru eisoes wedi cyhoeddi na fydd Aaron Ramsey yn rhan o’r garfan, tra bod Ben Davies hefyd wedi gorfod tynnu allan oherwydd anaf.
Ond dydi hynny “ddim yn golygu na allwn ni fynd yno a chael canlyniad da”, yn ôl Chris Coleman.
“Mae’n rhaid i ni fynd i mewn i’r gêm gydag agwedd a’r gred ein bod ni’n gallu cael canlyniad fan hyn oherwydd pan ti’n chwarae yn erbyn y timau mawr ac yn mynd i mewn i’r sialens honno yn gobeithio am ganlyniad neu gydag agwedd negyddol rwyt ti’n mynd i gael dy guro,” meddai Chris Coleman wrth golwg360.